A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich galluoedd digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd digidol?
Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol mis Ionawr. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.
Sesiynau cyfrwng Cymraeg:
- 12 Ionawr ’23: Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol (12:00-13:00)
- 19 Ionawr ’23: Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu (10:00-11:00)
- 25 Ionawr ’23: Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol (12:30-13:30)
- 26 Ionawr ’23: Cychwyn arni gyda LinkedIn Learning (14:00-14:45)
Sesiynau cyfrwng Saesneg:
- 11 Ionawr ’23: Introduction to the Digital Discovery Tool (10:00-11:00)
- 17 Ionawr ’23: Using LinkedIn Learning to Support your Teaching (12:00-13:00)
- 24 Ionawr ’23: Getting started with your Digital Capabilities (11:00-12:00)
- 26 Ionawr ’23: Getting started with LinkedIn Learning (10:00-10:45)
Yn olaf, hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i’ch cefnogi yn y flwyddyn newydd!