Newyddion Ffug a Llên-ladrad: Atal y lledaeniad! Rhan 1 – Trechu Newyddion Ffug

Post Blog gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Nithio’r grawn oddi wrth yr us
Gyda miliynau o wefannau ar gael i ddefnyddwyr y Rhyngrwyd, fe allai fod yn anodd dweud pa rai sy’n gyfreithlon. Am bob erthygl o ffynhonnell newyddion gyfreithlon, mae llawer mwy o erthyglau sy’n anghyfreithlon. Gall rhannu newyddion ffug niweidio eich enw da ar-lein, eich hygrededd, a’ch statws academaidd. Wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o erthyglau newyddion ffug yn ogystal â defnyddio erthyglau a ffynonellau cyfreithlon yn gywir. Bydd y blog hwn yn rhoi awgrymiadau defnyddiol i chi ar sut i gyflawni’r ddau nod a fydd yn gwneud eich taith academaidd ychydig yn haws.

Beth yw ‘newyddion ffug?’
Mae yna sawl diffiniad o newyddion ffug ond y diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn fwyaf cyffredinol yw unrhyw stori newyddion sy’n ffug a/neu’n fwriadol gamarweiniol. Rhai o ddibenion newyddion ffug yw creu ymateb, gwthio naratif gwleidyddol, neu at ddibenion digrif. Mae’n hawdd cynhyrchu’r math hwn o newyddion ar y Rhyngrwyd gan y gall unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth y maen nhw ei eisiau waeth beth fo’r gwirionedd neu beth fo’u cymwysterau. Mae hefyd yn dod yn fwyfwy anodd i’w ganfod gan ei bod hi’n hawdd cuddio gwefan fel ffynhonnell newyddion gyfreithlon ac mae’r cynnydd mewn technoleg yn ei gwneud hi’n haws gwneud mathau eraill o newyddion, megis adroddiadau byw, yn gyfreithlon, fel y byddwch yn ei ddysgu yn y blog hwn.

Sut mae dweud y gwahaniaeth rhwng newyddion ffug a newyddion cyfreithlon (‘go iawn’)
Un o’r pethau cyntaf y dylech chi chwilio amdano wrth ddarllen erthygl ar-lein yw o ba wefan y mae wedi dod. Mae gan bron pob ffynhonnell newyddion cyfreithlon, fel y BBC a The Guardian, glo caeedig wrth ymyl dolen y wefan yn y bar cyfeiriadau. Mae’r symbol hwn yn golygu bod y wefan yn ddiogel a bod ganddi dystysgrif we ddilys.

Bydd rhai gwefannau a grëwyd gan ddefnyddwyr, neu wefannau sydd heb dderbyn tystysgrif gwe ddilys yn cynnwys symbol clo wedi’i ddatgloi gyda llinell goch drwyddo – sy’n nodi nad yw’r cysylltiad gwe yn ddiogel. Mae’r dull hwn yn ffordd effeithiol o ddweud a yw gwefan yn cynnwys newyddion ffug, fodd bynnag, nid yw’n ddi-ffael. Gall llawer o wefannau newyddion amatur, yn enwedig y rhai sy’n cael eu rhedeg o gartref, gynhyrchu newyddion cyfreithlon ond nad oes modd iddynt gael tystysgrif gwe ddilys. Os nad ydych chi’n siŵr, peth arall i edrych amdano yw sut mae’r newyddion yn cael ei gyflwyno. Un o’r prif resymau y cynhyrchir newyddion ffug yw i ennyn llawer o gliciau trwy ddenu dicter. Er enghraifft, mae stori gyda’r teitl ‘y Tywysog William yn dwyn £500 miliwn gan yr FA’ yn fwriadol ymfflamychol ac wedi’i chynllunio i ennyn adwaith tanbaid. Mae penawdau fel y rhain fel arfer yn dod gyda delwedd wedi’i golygu a grëwyd i wneud yr erthygl yn fwy credadwy. Fel canllaw bras, os yw stori’n swnio’n rhy warthus i fod yn wir, mae’n debygol iawn o fod yn newyddion ffug. Dull arall o wirio yw gweld a yw safleoedd newyddion eraill yn cyhoeddi’r stori. Byddai rhywbeth mor fawr â ‘y Tywysog William yn dwyn £500 miliwn gan yr FA’ ar dudalen flaen pob safle newyddion genedlaethol. Dylai chwiliad Google syml ganfod adroddiadau eraill. Y ffordd orau o ddilysu cyfreithlondeb stori yw gweld a yw o leiaf 3 ffynhonnell newyddion gwahanol, dibynadwy yn ymdrin â’r stori.

Cynnydd mewn Peiriannau: Brwydro yn erbyn ‘botiaid’ cyfryngau cymdeithasol
Wrth ddarllen y blog hwn efallai eich bod wedi gofyn i chi’ch hun ‘pwy sy’n gyfrifol am ledaenu newyddion ffug?’ Er mai pobl sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r erthygl, mae’r erthygl ei hun fel arfer yn cael ei rhannu a’i lledaenu drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan bot. Rhaglenni cyfrifiadurol yw botiaid sydd wedi’u cynllunio i gyflawni swyddogaeth benodol ar y cyfryngau cymdeithasol, megis tanysgrifio i sianel YouTube. Mae botiaid yn ymddangos fel cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n gallu bod yn anodd dweud pa gyfrifon sy’n real a pha rai sy’n ffug. Yn ffodus, mae yna ambell ffordd o ddweud. Os ydych chi’n amau mai bot yw cyfrif, gwyliwch beth maen nhw’n ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae botiaid yn dueddol o bostio’n aml, gyda nifer o’u negeseuon yn debyg bob tro. Mae rhai cyfrifon bot hyd yn oed yn cynnwys lluniau proffil a elwir yn wynebau dwfn, sef wynebau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial sydd wedi’u cynllunio i wneud i broffil ar y cyfryngau cymdeithasol edrych fel ei fod yn perthyn i unigolyn go iawn. Y ffordd orau o adnabod bot sy’n defnyddio wyneb dwfn yw chwilio am y ddelwedd ar-lein drwy glicio botwm de’r llygoden ar y llun proffil a chlicio ar chwilio. Os yw’r canlyniad ond yn cynhyrchu proffiliau sydd ag un llun yn unig ar-lein, yna mae’n debygol iawn eich bod wedi dod ar draws bot. Os ydych chi’n amau mai bot yw cyfrif, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw rhoi gwybod am y cyfrif i’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol y mae’r cyfrif arni ac yna blocio’r cyfrif. Mae’r rhan fwyaf o Mae’r rhan fwyaf o wefannau cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook a Twitter, yn cael gwared ar gyfrifon bot os ydyn nhw’n derbyn digon o adroddiadau. Fel arall, mae gwefannau fel botsentinel.com yn defnyddio dysgu peirianyddol i benderfynu a yw cyfrif yn cael ei redeg gan bot NEU gan berson sy’n cymryd rhan mewn ymddygiad gwenwynig fel dechrau ymladd ar-lein a lledaenu newyddion ffug. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon bot yn cael eu dileu’n gyflym ar ôl iddyn nhw gael eu darganfod.

Cyfryngau ‘ffugiad dwfn’
Mae technoleg bellach mor soffistigedig fel ei bod hi’n bosibl i Ddeallusrwydd Artiffisial wneud iddi ymddangos bod unigolyn wedi dweud neu wneud rhywbeth na wnaethant. Gelwir hyn yn wyneb dwfn, lle mae Deallusrwydd Artiffisial yn cynhyrchu cyfansoddiad o wyneb unigolyn y gellir ei arosod ar gorff unigolyn arall, gan greu’r camargraff bod yr unigolyn yno mewn gwirionedd. Mae sain ffugiad dwfn yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i greu dyblygiad o lais unigolyn. Yn aml, mae’r technolegau hyn yn cael eu defnyddio gan hacwyr maleisus i wneud i darged ymddangos yn rhywle nad ydyn nhw erioed wedi bod iddo a dweud rhywbeth nad ydyn nhw erioed wedi ei ddweud. Gan fod y cyfansoddion a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial mor real mae’n hynod o anodd eu hadnabod, ac mae’r dechnoleg y tu ôl iddynt yn dod yn fwy datblygedig, felly beth allwn ni ei wneud? I adnabod ‘wyneb dwfn’, talwch sylw manwl i symudiadau’r wyneb. Oes unrhyw beth yn edrych yn anystwyth neu’n annaturiol? Nawr gwrandewch ar eu llais, sut mae’n swnio? Os oes rhywbeth yn swnio’n od, megis tôn y siaradwr a’r lefel sain wrth iddynt siarad, mae’n bosibl eich bod yn edrych ar luniau ‘ffugiad dwfn’. 

LibGuides
Os ydych chi wedi cyrraedd cyn belled â hyn, efallai eich bod chi’n dechrau meddwl bod llawer gormod i’w gofio yma. Peidiwch â phoeni, mae yna adnoddau i’ch helpu chi! Mae’r Llyfrgellwyr Pwnc wedi cynhyrchu’r LibGuides, sy’n darparu gwybodaeth ar sut i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau’r llyfrgell megis dod o hyd i adnoddau arbenigol ar eich pwnc, cysylltu â llyfrgellydd pwnc, a darllen canllawiau ar sut i ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell, hyd yn oed. Mae yma hefyd ganllawiau cryno ar gyfeirnodi ac osgoi llên-ladrad, ac rydyn ni’n argymell y dylai pob myfyriwr eu darllen. Mae’r canllaw cyntaf rwy’n ei argymell yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich traethawd hir ac ymdrin â’r wybodaeth honno. Mae gan LibGuides hefyd adran ar bwyso a mesur ffynonellau newyddion a chyfryngau, sy’n ddefnyddiol o ran canfod newyddion ffug.

Eich cyfrifoldebau a sut y gallwch chi helpu
Efallai eich bod chi’n pendroni beth sydd gan ledaeniad newyddion ffug i’w wneud â chi. Wedi’r cyfan, nid yw pob un ohonoch yn astudio newyddiaduraeth neu gyfathrebu, felly pam trafferthu brwydro yn erbyn y lledaeniad? Mae gan y rhan fwyaf o wefannau cyfryngau cymdeithasol bolisi ‘dim goddefgarwch’ ar gyfer rhannu straeon newyddion ffug a’r gosb am wneud hynny yw atal eich cyfrif yn barhaol. Ar ben hynny, gall rhannu newyddion ffug hefyd effeithio ar eich cyflogadwyedd gan ei fod yn dangos diffyg ymwybyddiaeth a gellir ystyried hyn yn niweidiol i enw da’r cwmni. O achos ffactorau fel y rhain, mae’n hanfodol bod yn wyliadwrus wrth rannu straeon newyddion ar y we. Gallwch fynd i’r afael â lledaeniad rhemp camwybodaeth drwy ddefnyddio rhai o’r dulliau a grybwyllwyd eisoes. Ffordd arall o helpu yw lledaenu’r gair am newyddion ffug. Dywedwch wrth eich ffrindiau, eich teulu, gwnewch gymaint o bobl ag y gallwch yn ymwybodol o newyddion ffug.

Eisiau dysgu mwy?
Ewch i’n casgliad LinkedIn Learning sy’n cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol i helpu i roi taw ar gamwybodaeth.

Yn Rhan 2 o’r gyfres hon o flogiau, byddwn yn trafod llên-ladrad a’r hyn y gallwch ei wneud i osgoi camddefnyddio gwaith pobl arall (neu chi eich hun!)

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*