Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod y Ddaear, a thema eleni yw #BuddsoddiYnEinPlaned.
Gallwn ni fel unigolion fuddsoddi ein hamser a’n hymdrech i ddysgu mwy am gynaliadwyedd a’r newidiadau y gallwn ni eu gwneud i’n harferion dyddiol er mwyn byw bywyd mwy cynaliadwy. Cofiwch, gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’n planed.
Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau o LinkedIn Learning sy’n esbonio mwy am gynaliadwyedd a’r galw cynyddol am sgiliau gwyrdd.
- Understanding the basics of sustainability (4m 20e)
- Calculating your carbon footprint (2m 48e)
- Explore the lifecycle of things (3m 3e)
- Sustainability Strategies (56m)
- Navigating Environmental Sustainability: A Guide for Leaders (16m 57e)
- What are green skills (2m 43e)
- Closing the green skills gap to power a greener economy (23m)
- Smart Cities: Solving urban problems using technology (14m)
Rydym hefyd wedi creu ymgyrch ar LinkedIn Learning ar gyfer Diwrnod y Ddaear, a gallwch gael mynediad iddo o’r prif ddangosfwrdd yn LinkedIn Learning.