TipDigidol 89 – Ydych chi’n anghofio gwirio eich e-bost prifysgol? Gallwch gael hysbysiadau ar eich ffôn!

Ydych chi weithiau’n anghofio gwirio eich mewnflwch prifysgol? Gallwch gael eich negeseuon e-bost yn syth i’ch ffôn gyda’r ap Microsoft Outlook! Mae’r ap ar gael ar gyfer iOS ac Android, ac mae’n gadael ichi ddarllen ac ymateb i negeseuon e-bost wrth fynd. Lawrlwythwch ef o storfa apiau eich ffôn, mewngofnodwch gyda’ch cyfrif e-bost prifysgol, a chaniatáu hysbysiadau fel y byddwch chi’n cael eich rhybuddio pan fydd negeseuon newydd yn cyrraedd. Mae’n ffordd syml o ddal i fyny â negeseuon gan eich darlithwyr a gwasanaethau’r brifysgol heb orfod cofio mewngofnodi trwy eich porwr.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*