Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod MS Teams lle mae angen i chi anfon rhestr gyflym sy’n hawdd i eraill ei darllen? Mae dwy ffordd gyflym o greu pwyntiau bwled neu restrau wedi’u rhifo mewn unrhyw sgwrs MS Teams.
Opsiwn 1
Gallwch naill ai glicio ar yr eicon fformat yn y sgwrs, a gallwch greu pwyntiau bwled neu restr wedi’i rhifo’n hawdd oddi yma.
Opsiwn 2
Neu os ydych chi mewn sgwrs Teams:
- Pwyswch – ac yna’r bar gofod i ddechrau eich pwyntiau bwled
- Pwyswch 1. ac yna’r bar gofod i ddechrau eich rhestr wedi’i rhifo
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!