Croeso cynnes i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr newydd a ymunodd â’r Tîm Galluoedd Digidol ar ddechrau mis Medi! Byddant yn gweithio gyda ni drwy gydol y semester i annog myfyrwyr ar draws y brifysgol i ddatblygu eu galluoedd digidol ac i roi mewnwelediadau gwerthfawr i’r hyn y mae myfyrwyr ei eisiau.
Laurie Stevenson (Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd)
“Helo, Laurie Stevenson ydw i ac rwy’n astudio Cadwraeth Bywyd Gwyllt. Ar hyn o bryd rwy’n ymgymryd â lleoliad ymchwil blynyddol sy’n canolbwyntio ar ddefnydd llinad y dŵr (duckweed) fel ffynhonnell protein cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a hefyd ar gyfer glanhau dŵr gwastraff amaethyddol. Mae fy niddordebau penodol ar gael atebion i sut gallwn gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy er mwyn cynnal poblogaeth fyd-eang sydd yn tyfu ymysg heriau tlodi byd-eang a newid yn yr hinsawdd.
Fe ddewisais fod yn Bencampwr Digidol Myfyrwyr oherwydd roeddwn yn chwilio am rywbeth creadigol i’w wneud y tu allan i’r labordy ac rwy’n mwynhau creu cynnwys ar-lein a chyfathrebu â myfyrwyr eraill. Ro’n i wir yn gwneud defnydd da o’r cynnwys digidol a’r gohebiaethau yr oedd y brifysgol yn cyhoeddi yn ystod fy ail flwyddyn, ac felly byddwn i wrth fy modd yn talu hynny’n ôl a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau myfyrwyr drwy’r rôl hon. Rwyf wir yn caru Prifysgol Aberystwyth, ac rwy’n angerddol am helpu eraill i deimlo’r un fath! Yn ystod fy amser hamdden, dwi’n mwynhau nofio dŵr oer trwy’r flwyddyn, dwi’n dysgu Cymraeg a dwi hefyd yn mwynhau mynd am anturiaethau ar hyd y ffyrdd ac ymweld â llefydd newydd yn fy nghar yr ydw i wedi ei drosi yn campervan.”
Jeffrey Clark (Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)
“Helo bawb, fy enw i yw Jeffrey Clark, a dwi yn fy nhrydedd flwyddyn ar hyn o bryd yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Pan mae’n dod i Lenyddiaeth Saesneg mae yna lawer o wahanol bynciau i ddysgu amdanynt, ond newyddiaduraeth yw fy mhrif ddiddordeb i ac rwy’n gobeithio defnyddio’r sgiliau rwyf wedi eu dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth i feithrin gyrfa fel gohebydd neu olygydd newyddion.
Dewisais fod yn Bencampwr Digidol Myfyrwyr oherwydd fy niddordeb mewn cyfathrebu, yn ogystal â fy angerdd i helpu eraill. Mae creu cynnwys yn rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr ac felly mae’n dod â llawenydd mawr i mi rannu’r cynnwys hwnnw gyda chi i gyd. Gyda chyfraniadau fy nghyd-Bencampwyr Digidol Myfyrwyr a minnau, ein gobaith yw gwella Prifysgol Aberystwyth i bawb. Mae fy hobïau yn cynnwys heicio, rhedeg, chwarae gemau fideo, cymryd rhan mewn cwisiau tafarn, darllen, ac ysgrifennu. Rwy’n gobeithio y gwelaf i chi ar hyd y campws!”
Urvashi Verma (Cyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol)
“Helo, Urvashi Verma ydw i ac rydw i’n fyfyriwr gradd meistr (Cyfrifiadureg). Fy arbenigedd yw Ystadegau ar gyfer Bioleg Gyfrifiadurol ac mae gen i ddiddordeb brwd mewn Biowybodeg. Gwnes i gais am y rôl hon oherwydd ei fod yn gyfle gwych i gyfarfod a rhyngweithio â phobl newydd. Cyn hynny, fi oedd y cynrychiolydd academaidd ar gyfer fy mlwyddyn (2021-22), a rhoddodd hyn brofiad gwerthfawr i mi wrth gyfathrebu â chyd-fyfyrwyr, gan gasglu eu hadborth, a chynrychioli eu barn yng nghyfarfodydd Pwyllgor Ymgynghorol Myfyrwyr a Staff.
Rwyf am i fyfyrwyr newydd garu eu profiad o fyw yn Aber, a byddaf yn parhau i’w cefnogi drwy gydol y tymor hwn fel Hyrwyddwr Digidol Myfyrwyr. Ar wahân i’r rôl hon, rwyf hefyd yn swyddog cyfadran ar gyfer FBPS (2022-23). Fy mhrif hobïau yw nofio a teithio, a dwi hefyd yn dysgu rhwyfo gyda chlwb cychod Prifysgol Aberystwyth.”
Cadwch lygad barcud allan dros y misoedd nesaf am lawer o gynnwys cyffrous y bydd y pencampwyr yn eu cyhoeddi ar y blog hwn, a hefyd ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Gwybodaeth!