Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ar fy nhaith i les digidol, fe gefais fy hun ar groesffordd, yn anfodlon ar y berthynas a oedd wedi esblygu rhyngof i a thechnoleg. Unwaith yn ffynhonnell llawenydd ar gyfer hwyluso cysylltiadau a chyfoethogi profiadau, yn raddol daeth yn bresenoldeb rhwystredig ac yn achos pryder. Ofer fu pob ymgais i roi cynnig ar wahanol strategaethau, o arddangos graddlwyd i osod larymau atgoffa; roedd fy nyfeisiau yn parhau i lyncu gormod o’m hamser, gan arwain at euogrwydd ac ymdeimlad o fethiant personol, profiad tra gwahanol i’m chwilfrydedd cychwynnol gyda thechnoleg. Beth sydd wedi newid?
Rhyfeloedd Sweipio: Melltith y Ffôn Clyfar
Yn nyddiau cynnar y cyfryngau cymdeithasol, roedd mewngofnodi yn golygu tanio cyfrifiadur y teulu, llywio trwy haenau bwrdd gwaith, ac aros yn amyneddgar wrth i olwynion y byd digidol droi’n araf. Gallai’r byd hwnnw ddiflannu mewn un clic amser swper neu pan fyddai storm ar y gorwel. Wrth i ni neidio ymlaen i heddiw, ac mae ein dyfeisiau gyda ni’n barhaus, wrth law yn ein pocedi, yn barod ar gyfer ymgysylltu ar unwaith. Mae’r rhwyddineb yr ydym yn datgloi ein ffonau heb bwrpas clir wedi troi’n arfer, rydyn ni’n ysu am y wefr ddopamin a ddaw yn sgil rhyngweithio digidol.
Wedi’i gyfyngu yn y lle cyntaf i lifau penodol, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu’n blatfformau cynnwys eang wedi’u crefftio i ddal ein sylw’n ddiddiwedd. Yn y dirwedd defnyddwyr-ganolog sydd ohoni, nid dyfeisiau niwtral ydyn nhw ond yn hytrach maen nhw wedi’u cynllunio’n fwriadol i annog defnydd aml ac estynedig. Er ein bod yn chwilio am dechnoleg ddiddorol, gall yr atyniad sy’n bachu ein diddordeb weithiau weithio yn erbyn ein dymuniadau.
O Whoville i Screensville: Sut mae’r Ffôn Clyfar wedi Dwyn y Dolig
Er bod ein dyfeisiau yn amhrisiadwy i’n cysylltu ni yn ystod cyfnodau clo ac wrth dreulio gwyliau o bell, maen nhw hefyd wedi newid natur ein rhyngweithio personol. Dwi’n cofio’n glir treulio’r Nadolig ar ôl y pandemig gyda’r teulu, wedi’n hamgylchynu gan sgriniau, pob un ohonom wedi ymgolli yn ein bydoedd digidol. Dathliadau cwbl wahanol i’r rhai roedden ni wedi’u cynllunio ond yn realiti wedi’i lunio gan hollbresenoldeb technoleg.
Mae fy mherthynas gyda thechnoleg a oedd gynt yn un gadarnhaol bellach wedi troi’n un wenwynig, ac mae torri’n rhydd o afael fy ffôn yn gofyn am fwy nag ewyllys yn unig.
Dydy fy ffôn ddim yn ennyn Llawenydd: Pam y gallai Detocs Digidol Weithio i Mi
Doedd awgrymiadau a haciau storio a thacluso ddim yn ddefnyddiol pan oeddwn i’n boddi mewn dillad. Gan fy mod i’n ysu i adennill rheolaeth dros fy wardrob, cymerais gyngor Marie Kondo a thynnu pob dilledyn yr oeddwn i’n berchen arno o’u cypyrddau er mwyn gweld sut roeddwn i’n teimlo am bob eitem, gan gadw y rhai a oedd yn cyfoethogi fy mywyd yn unig. Mae detocs digidol yn addewid o newid systemig tebyg, er ei fod yn radical. Drwy gael gwared ar yr holl weithgareddau digidol dros dro, fy nod yw cael persbectif ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ac ailgyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i’m rhyngweithio digidol.
Eto i gyd, yr her yw ymarferoldeb tynnu allan o weithgareddau digidol yn llwyr. Yn yr oes sydd ohoni, mae cadw i fyny ag ymrwymiadau gwaith, aseiniadau prifysgol a bywyd cymdeithasol fel petaen nhw ond yn bosibl gyda chysylltiad cyson â’r rhyngrwyd. Mae hwylustod technoleg wedi disodli llawer o offer a systemau trefniadol, hefyd – fy ffôn clyfar yw fy unig gloc larwm, oriawr, camera, calendr a llawer mwy, gan agor y drysau i’r byd digidol o’r funud rydyn ni’n deffro.
Ctrl + Alt + Detocs: Her bersonol
Er mwyn adennill rheolaeth, dwi wedi cymryd camau pendant. Wrth ymgymryd â detocs digidol, am fis cyfan ym mis Rhagfyr, byddaf yn:
- Dileu apiau’r cyfryngau cymdeithasol o’m ffôn ac allgofnodi o’r fersiynau cyfatebol ar y bwrdd gwaith (ac eithrio’r ap Messenger, lle dwi’n cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu).
- Analluogi hysbysiadau o bob ap ac eithrio ambell un dethol.
- Tynnu’r rhan fwyaf o’r teclynnau sydd ar y sgrin cartref.
- Rhoi cyfrinair mwy pwrpasol yn hytrach nag adnabod wyneb.
- Cadw fy ffôn allan o gyrraedd am y rhan fwyaf o’r dydd.
- Creu mannau pwrpasol ar gyfer gwaith digidol ac astudio, lle byddaf yn gwirio fy e-byst unwaith y dydd.
- Rhoi sylw i’m hanghenion emosiynol pan fyddaf am godi fy ffôn ac ailgyfeirio fy ffocws at weithgareddau sy’n ystyrlon ac yn foddhaus.
- Cadw dyddiadur am fy mhrofiad.
Er mwyn gwneud yr her yn un gynaliadwy, dwi am ganiatáu i fy hun ddefnyddio technoleg i wylio ffilmiau a gwrando ar gerddoriaeth a llyfrau sain – mae cynnwys ffurfiau hir yn ddewisiadau bwriadol naturiol, sy’n darparu profiadau cyfoethog ac sy’n gwbl wahanol i sgrolio difeddwl neu wirio di-baid.
Llywio’r Nadolig Digyswllt: Rhagfyr Di-Ddigidol
Wrth i mi ddychmygu’r tymor gwyliau heb gysur presenoldeb digidol, mae yna gymysgedd o gyffro ac ofn. A fydd wynebu fy ngorbryder yn fy arwain at darddiad fy arferion digidol di-fudd? Trwy’r gyfres hon ar les digidol, byddaf yn rhannu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau fy ymdrech i adennill rheolaeth dros fy mywyd digidol. Ymunwch â mi wrth i mi lywio heriau detocs digidol, gyda’r nod o ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i mi’r Nadolig hwn.