Yn rhan o gynefino estynedig Prifysgol Aberystwyth, wythnos nesaf yw wythnos SgiliauAber! Cynhelir nifer o ddigwyddiadau, gallwch weld yr holl ddigwyddiadau ar safle SgiliauAber ond bydd y tîm Sgiliau Digidol yn rhan o dair sesiwn! Sef:
- Offer DA bob dydd: Wedi’i gyflwyno gan Paddy Shepperd, Arbenigwr DA Uwch Jisc, bydd y sesiwn hon yn ystyried y defnydd ymarferol o DA ar gyfer tasgau dyddiol, gan ganolbwyntio ar offer gwella cynhyrchiant megis Microsoft Copilot, Google Docs, a ChatGPT. Byddwn yn edrych ar rôl DA mewn addysg trwy gymwysiadau megis Bodyswaps ac Anywize ac yn trafod sut y gellir integreiddio’r rhain i strategaethau dysgu i wella effeithlonrwydd, cywirdeb a chynhyrchiant cyffredinol.
- Getting Started with LinkedIn Learning: During this session, we will demonstrate how to:
- Navigate the platDechrau arni gyda LinkedIn Learning: Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn dangos sut i:
- Lywio’r llwyfan a chwilio am gynnwys perthnasol
- Dangos tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd a’ch proffil LinkedIn personol.
- Grwpio cynnwys yn seiliedig ar bwnc penodol, neu gynnwys yr hoffech ei wylio ar adeg arall, fel casgliadau personol
- Gweld nodweddion a ychwanegwyd yn ddiweddar i LinkedIn Learning
- Gweithdy Sgiliau Digidol: Profiad ymarferol i fyfyrwyr rhyngwladol newydd yma yn Aber ar y systemau y byddwch yn eu defnyddio (e.e. Blackboard, Panopto, Turnitin, Cofnod Myfyriwr, Primo, ac ati) a rhai systemau allanol hefyd (e.e. meddalwedd Office 365 megis Word, PowerPoint, LinkedIn Learning ac ati).
Gallwch archebu pob sesiwn trwy safle SgiliauAber, gallwch hefyd weld yr holl recordiadau ac adnoddau o Ŵyl Sgiliau Digidol 2023.