TipDigidol 52: Llwyddo gyda llinell drwodd! ➖

Ydych chi erioed wedi bod eisiau croesi rhywbeth allan yn Excel? Weithiau nid ydych am ddileu neu guddio’r celloedd. Mae gan Dipdigidol 52 lwybr byr cyflym i’ch helpu! 

Yn syml, dewiswch y gell/celloedd perthnasol a defnyddiwch y llwybr byr: Ctrl + 5 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 51: Defnyddio MS Teams yn fwy effeithiol gyda gorchmynion  ⚡

Ydych chi eisiau ffordd gyflymach a mwy effeithlon o lywio MS Teams, er enghraifft i roi gwybod i’ch cydweithwyr am eich statws ar Teams neu anfon neges? Gall TipDigidol 49 ddangos gorchmynion cyflym i chi wneud hyn. Ar gyfer y TipDigidol hwn byddwn yn defnyddio’r gorchmynion blaenslaes yn y bar chwilio ar Teams.

  • Yn gyntaf agorwch MS Teams 
  • Nesaf, bydd angen i ni fynd i’r bar chwilio ar y brig, gellir gwneud hyn naill ai trwy bwyso ctrl + e neu drwy glicio yn yr ardal chwilio ar y brig. 
  • Yna os ydych yn pwyso / byddwch yn gweld yr holl orchmynion sydd ar gael i chi eu defnyddio. 
  • Ar ôl i chi ddewis y gorchymyn rydych chi am ei ddefnyddio, pwyswch ‘enter’. 
  • Enghraifft o un o’r rhain fyddai /busy sy’n ffordd gyflym o osod eich statws fel prysur. 
  • Enghraifft arall, bydd /chat yn rhoi opsiwn dilynol i chi ddewis i bwy rydych chi am anfon y neges a beth hoffech chi ei weld yn y neges, oll o’r bar chwilio. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 50: Rhagori mewn Cymryd Nodiadau! 📝

Hoffech chi wella eich dull o gymryd nodiadau ond rydych chi’n cael trafferth gyda fformat? Gyda ThipDigidol 50 a thempledi tudalen yn OneNote gallwch wneud hynny! 

Mae gan Microsoft OneNote yr opsiwn i fewnosod templedi tudalen i’ch helpu i fformatio’ch nodiadau. Mae templedi o nodiadau darlithoedd syml i drosolwg prosiect i flaenoriaethu rhestrau. Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod mwy! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 49: Graffiau diddorol yn MS Excel 📈

Ydych chi eisiau ychwanegu ffyrdd diddorol o gyflwyno’ch data yn MS Excel? Gall TipDigidol 49 helpu gyda hynny trwy gyflwyno Sparklines. Mae Sparklines yn graffiau bach sydd ond yn cymryd un gell mewn dalen Excel ac yn ffordd effeithiol o gyflwyno data heb orfod cael graff sy’n llenwi dalen gyfan. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data sy’n bwysig ond nad yw’n hanfodol i gyflwyniad.

  • Yn gyntaf, mae angen i chi gael cyfanswm priodol o ddata fel y dangosir.
  • Yna dewiswch y Celloedd rydych chi am eu defnyddio i gyflwyno’r data a mynd i ‘mewnosod’ yn y tabiau a dewis y math o graff yr hoffech ei gael gan Sparklines.
  • Dewiswch yr ystod ddata yr hoffech ei defnyddio, sef B2; F4 yn yr enghraifft.
  • A dyna ni; dylech gael graff sy’n cyflwyno’r data i gyd mewn un gell.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 48: Dewiswch lwybr byr! 🖥️ 

Amser i ddysgu llwybr byr newydd gyda ThipDigidol 48! 

Llwybr byr hawdd i ddewis rhes gyfan yn Excel. Yn y rhes yr hoffech ei dewis, defnyddiwch y llwybr byr: Shift + bar gofod.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 46: Cydweddu lliwiau ar eich sleidiau PowerPoint gyda’r adnodd Eyedropper 🎨 

Wrth greu cyflwyniad PowerPoint, efallai y bydd adegau pan fyddwch chi eisiau cydweddu lliw’r cefndir neu wrthrych â lliw penodol iawn. Er bod yr opsiynau lliw sydd ar gael yn helaeth, mae yna adnodd hynod ddefnyddiol o’r enw eyedropper, sy’n eich galluogi i gydweddu lliw yn berffaith! 

Dilynwch y fideo isod i ddysgu sut i ddefnyddio’r nodwedd hon. Yn y fideo, byddwn yn dangos i chi sut i newid lliw siâp, ond mae’r un camau’n berthnasol i newid lliw eich cefndir, border, a llawer mwy. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 44: Gwneud penderfyniadau cyflym gyda’r nodwedd bleidleisio yn MS Teams 📊  

Efallai y bydd adegau pan fyddwch mewn cyfarfod MS Teams, ac mae angen i chi wneud penderfyniad cyflym. E.e. penderfynu pryd i gynnal eich cyfarfod grŵp nesaf neu bleidleisio ar ba deitl i’w ddewis ar gyfer adroddiad prosiect.  

Os hoffech chi greu pleidlais ar ôl i chi ddechrau eich cyfarfod, mae gan Teams adnodd pleidleisio. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae gosod eich pleidlais gyntaf! 

Noder:Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio PA os ydych chi’n bwriadu gosod pleidlais cyn eich cyfarfod neu sesiwn ar-lein. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 43: Newid eich gwaith gyda Disodli yn Word 🔃

Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi ddisodli gair rydych chi wedi’i ddefnyddio’n gyson drwy gydol eich gwaith – gallai hwn fod yn enw neu’n air a gamsillafwyd. Gall TipDigidol 43 ddangos i chi sut i ddod o hyd i eiriau a’u disodli’n gyflym. Darllenwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam byr neu gwyliwch y fideo i ddysgu sut!  

  • Yn y rhuban uchaf, dewiswch yr opsiwn ‘disodli’. 
  • Rhowch y gair yr hoffech ei ddisodli yn yr adran ‘Canfod beth’. 
  • Rhowch y gair yr hoffech ei ddefnyddio yn ei le yn yr adran ‘Disodli gyda’. 
  • Dewiswch yr opsiwn perthnasol i chi – disodli a dod o hyd nesaf i newid fersiynau unigol neu ddisodli’r cyfan.  

Noder, ni fydd hyn yn gweithio oni bai bod y gair yn ‘canfod beth’ wedi’i sillafu’n gywir.    

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 42: Mireinio eich canlyniadau chwilio yn MS Teams 🔎  

Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau. Er mwyn arbed amser diangen yn chwilio, gallwch ddefnyddio hidlwyr. 

Mae’r hidlwyr hyn yn caniatáu ichi chwilio gan ddefnyddio meini prawf penodol fel dyddiad, anfonwr a math o ffeil, gan eich helpu i nodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym!

Edrychwch ar y sgrinlun isod i ddysgu sut i ddefnyddio’r hidlwyr hyn ⬇

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 41: Gwell Nodiadau gyda Microsoft OneNote 📒

A ydych erioed wedi meddwl yr hoffech gael eich holl nodiadau gan gynnwys dogfennau neu ddogfennau PDF i gyd mewn un lle? Mae hyn yn bosibl gyda OneNote! Yn ogystal â bod yn lle gwych i storio eich nodiadau personol, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fewnosod allbrintiau ffeiliau gan gynnwys dogfennau PDF a thudalennau Word i fynd ochr yn ochr â’ch nodiadau? Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae mewnosod allbrintiau ffeiliau! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!