Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
*Darllenwch fy mlog cyntaf i ddysgu mwy am ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion*
Francesca yw ein myfyriwr graddedig cyntaf i gael ei chyfweld ac mae hi bellach yn gweithio fel ysgrifennydd cynorthwyol o fewn y GIG a byddai wedi hoffi gwella ei gwybodaeth a’i medrusrwydd o ran defnyddio MS Excel cyn iddi raddio.
Mae dau ddigwyddiad yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol (6-10 Tachwedd 2023) ar ddefnyddio Excel at ddefnydd bob dydd yn ogystal â gweithio gyda setiau mwy cymhleth o ddata. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru eich lle ar unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl, ewch i edrych ar y rhaglen.
