Heddiw rydyn ni’n cyhoeddi ein proffil sgiliau digidol olaf gyda graddedigion diweddar PA! Heddiw, cawn glywed gan Manon a astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth, ac sydd bellach yn gweithio fel cyfieithydd. Mae hi’n rhannu pa mor ddefnyddiol oedd iddi ddysgu sut i ddefnyddio Cysill a Cysgeir tra yn y Brifysgol, ond sut byddai wedi bod yn ddefnyddiol iddi fod wedi dysgu sut i ddefnyddio Excel, gan ei bod hi’n ei ddefnyddio’n rheoliad ar gyfer ei gwaith.
Os hoffech ddysgu mwy am ddefnyddio Cysill a Cysgeir, ac am weithio yn y Gymraeg yn fwy cyffredinol ar eich cyfrifiadur, darllenwch ein blogbost diweddar. Os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn datblygu eich hyfedredd gydag Excel, gallwch weld ein casgliad Awgrymiadau defnyddiol Excel o LinkedIn Learning.
Cadwch lygad allan ym mis Hydref 2024 gan y byddwn yn cyhoeddi Cyfres Proffil Sgiliau Digidol newydd â Chyflogwyr!
Testun yn unig:
Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022
Beth fuoch chi’n ei astudio? “Hanes a Gwleidyddiaeth”
Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Dwi nawr yn gweithio i gwmni Hyfforddiant Cambrian fel cyfieithydd”
Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn y gwaith?
Cyfranogiad digidol – “Dwi’n cael lot o gyfarfodydd ar-lein, ac rydyn ni’n defnyddio Google Meet ar gyfer rhain.”
Hyfedredd digidol – “Gan fy mod i’n gyfieithydd, dwi’n defnyddio tipyn ar raglenni fel Cysgeir a Cysill, a dwi hefyd yn defnyddio geiriaduron ar-lein fel Byd Termau Cymru a Geiriadur yr Academi.”
Cyfathrebu digidol – “Dwi’n defnyddio Gmail pob dydd ar gyfer e-bostio cydweithwyr.”
Cynhyrchiant digidol – “Dwi’n defnyddio labeli yn Gmail ar gyfer helpu fi i drefnu fy e-byst.”
A gawsoch chi unrhyw gefnogaeth gyda’ch sgiliau digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth?
“Ges i dipyn o gefnogaeth gan fy narlithwyr a gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddysgu sut i ddefnyddio Cysill a Cysgeir.” “Ges i gefnogaeth gan ddarlithwyr ar sut i ddefnyddio’r rhestrau darllen ar Blackboard. Roedd hynna’n help mawr ar gyfer dod o hyd i adnoddau ar gyfer ysgrifennu traethodau.”
Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?
“Pan nes i adael y Brifysgol, doeddwn i ddim yn hyderus iawn yn cyfathrebu dros e-bost mewn modd proffesiynol, felly byddai wedi bod yn dda gallu ymarfer hyn mwy cyn gadael.” “Rydyn ni’n defnyddio Excel lot yn y gwaith nawr i reoli data. Nes i ddim defnyddio Excel o gwbl fel rhan o fy ngradd i, ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn gallu dysgu sut i’w ddefnyddio tro oeddwn i yn fyfyriwr.”