Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol i’r tîm Sgiliau Digidol! Dyma restr o’r hoff bethau rydyn ni wedi’u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys fformatau, digwyddiadau ac adnoddau newydd:
👩🏻💻 Tudalennau gwe newydd i’ch helpu i weithio mewn proses gam wrth gam i ddatblygu eich sgiliau
Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau defnyddio’r adnoddau hyn gymaint ag yr ydym ni wedi mwynhau eu creu. Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd ac edrychwn ymlaen at gefnogi eich sgiliau yn 2025!
Heddiw ceir ein proffil olaf yng Nghyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr ac mae’n dod o Sw Caer. Yn eu proffil, dywed Sw Caer eu bod yn gwerthfawrogi llythrennedd data, yn enwedig Excel a gweithio gyda setiau data mawr. Yn ogystal â datrys problemau digidol o fewn codio, gwybodaeth am DA, a dysgu a chreadigrwydd digidol megis PowerPoint neu MS Teams. Gweler yr adnoddau isod i helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn:
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Yng Nghaer, ond mae cysylltiadau ymchwil ac academaidd ledled y byd
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
Cyllid a Chyfrifeg
Marchnata
Datblygu Cynnwys Creadigol
Ceidwad Addysg
Lletygarwch
Gwyddonwyr a Thechnegwyr Labordai
Gweithrediadau Gwesteion
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Llythrennedd Ddigidol – Dadansoddi ystadegol yn amrywio o reoli Excel yr holl ffordd i fyny at godio R, defnyddio iaith codio, gweithio gyda setiau data mawr, modelu rhagfynegol, dealltwriaeth am ddylanwad meddalwedd a chaledwedd, a threfnu data Datrys Problemau Digidol – Datrys problemau sy’n gysylltiedig ag R Dysgu a Chreadigrwydd Digidol – Offer hyfforddi digidol megis gwefannau pleidleisio, wedi’u gwreiddio o fewn cyflwyniadau PowerPoint ac MS Teams
A oes gan y graddedigion yr ydych yn eu cyflogi wendidau cyffredin o ran sgiliau digidol?: “Yr ymwybyddiaeth foesegol o ddefnyddio technoleg. Rydym yn atyniad i ymwelwyr, felly mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o’n prosesau ac rydym yn cael adolygiadau moesegol. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o GDPR, diogelu data ac mae’n rhaid i ni feddwl am wedd y camerâu ac effaith technoleg ar les anifeiliaid, o ran y goleuadau, y synau a’r gwres. Beth os yw’r camera hwn yn newid tymheredd y dŵr? Hefyd, yr elfennau ymarferol, felly does gennym ni ddim plygiau ym mhobman na Wi-Fi ac rydyn ni’n gweithio’n fyd-eang felly mae honno’n elfen arall sydd angen ei hystyried.”
Beth fyddai eich cyngor gorau i raddedigion?: “Astudiwch gynifer o gyrsiau ychwanegol ag y gallwch oherwydd nid ydym yn disgwyl i chi wybod popeth ond os yw’r holl ymgeiswyr wedi astudio graddau tebyg, ond nad ydynt wedi astudio unrhyw beth yn ychwanegol, does dim byd yn eich gosod ar wahân.”
Am beth ydych chi’n chwilio mewn gweithiwr?: “Un peth newydd rydyn ni’n edrych arno yw DA felly mae llawer o’n gwyddonwyr yn gweithio ar dechnoleg olrhain camerâu ar raddfa fawr ac mae arnom angen i’n graddedigion fod yn barod ar gyfer pethau nad ydynt yn bodoli eto. Rhaid i chi fod yn hyddysg yn y maes ac yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg. Rydym hefyd yn chwilio am wytnwch i ymdopi â newidiadau, datrys problemau a’r gallu i addasu’n gyflym.”
Ydych chi’n meddwl bod graddedigion yn anwybyddu sgiliau digidol yn y math hwn o waith?: “Yn bendant, mae cyfran fawr o’r amser yn ein swyddi yn cael ei dreulio o flaen cyfrifiadur. Nid ydym yn gweld modiwlau prifysgol gyda digon o bwyslais ar y dechnoleg yr ydym yn ei defnyddio, boed hynny’n ddelweddu thermol neu ystadegyn R yn hytrach na SPSS nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn diwydiant mewn gwirionedd, felly mae bod yn flaengar pan fo’r modiwlau ond yn newid bob 4-5 mlynedd yn anodd iawn.”
Mae ein chweched Proffil Cyflogwr gyda’r asiantaeth dai Aled Ellis & Co, sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth. Yn y proffil isod, mae Aled Ellis & Co yn datgan pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol a marchnata yn eu busnes yn ogystal â hunaniaeth ddigidol. Edrychwch ar rai adnoddau isod i ddatblygu’r sgiliau hyn.
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Wedi’i leoli yn Aberystwyth ond mae’n gwasanaethu Tywyn lawr i Gei Newydd ac ar draws canolbarth Cymru
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
Trafodwr gwerthu
Cynorthwyydd Gweinyddol
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Hunaniaeth Ddigidol – Mae’n bwysig iawn cyflwyno hunaniaeth groesawgar, gynorthwyol i gleientiaid ac mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae darpar weithwyr yn cyflwyno eu hunain wrth gyfathrebu hefyd Cyfathrebu Digidol – Cysylltu â fendwyr, prynwyr a gwerthwyr trwy e-bost, WhatsApp a negeseuon llais Creadigrwydd Digidol – Splice, Canva a meddalwedd golygu fideos eraill.
A wnaeth Covid newid y cwmni a’r ffordd mae’n cael ei redeg?: “Cyn Covid prin iawn oedd y defnydd o’n grŵp WhatsApp ond nawr rydyn ni’n ei ddefnyddio drwy’r amser ac roedd yn caniatáu i ni weithio o bell sy’n rhywbeth rydyn ni’n dal i’w wneud. Peth arall yw gallu cyfathrebu â gwerthwyr dramor a dim ond gyda galwadau fideo neu negeseuon y mae hynny’n bosibl.”
Beth yw’r prif sgiliau personol i Werthwr Tai?: “I unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn rôl gwerthu mae gwasanaeth cwsmeriaid mor bwysig. Mae sicrhau bod eich cleient yn gwbl fodlon yn allweddol. Sgiliau cyfathrebu yw’r rhan bwysicaf o’n swyddi. Mae’n well gan rai cleientiaid gyfathrebu trwy lwyfannau penodol, neu yn Gymraeg yn unig, felly mae bod ar draws yr holl lwyfannau cyfathrebu gwahanol ac yna bod yn barod i gyfathrebu â chleientiaid yn eu dewis ddull yn wych.”
A oes gwendidau o ran sgiliau digidol yn eich tîm?: “Yn bendant yn y cyfryngau cymdeithasol. Nid oedd presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol pan ddechreuodd y busnes am y tro cyntaf ond nawr rydym yn gwneud teithiau rhithwir, yn postio ein holl eiddo ar Facebook ac Instagram ac mae gennym sianel YouTube. Mae mor allweddol i’r diwydiant gwerthu tai ac mae’r genhedlaeth hon o raddedigion yn fwy cyfarwydd â sut i’w ddefnyddio, felly bydd gallu cael y gallu hwnnw i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â sgiliau marchnata hefyd efallai, yn mynd yn bell”.
Ydych chi’n meddwl bod pobl yn anwybyddu sgiliau digidol yn y diwydiannau creadigol?: “Heb amheuaeth. Yn ogystal â’r cyfryngau cymdeithasol, mae gallu defnyddio cyfrifiaduron mor bwysig. Rydym yn defnyddio system o’r enw Vebra i uwchlwytho ein holl eiddo a chysylltiadau felly mae gallu defnyddio a llywio’r offer digidol hyn yn hanfodol. Bydd gallu defnyddio system newydd yn gyflym yn mynd â chi’n bell yn ein busnes ni!”
Mae ein pumed Proffil Cyflogwr gyda’r BBC. Fel y nodwyd yn y proffil isod, mae’r BBC yn cynnal digwyddiadau hacathon sydd fel rheol yn seiliedig ar godio a hefyd yn credu y dylid rhoi pwysigrwydd ar les digidol. Hefyd, mae’r BBC yn argymell defnyddio LinkedIn Learning i ddatblygu sgiliau digidol yn enwedig ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol. Edrychwch ar rai adnoddau isod i’ch helpu yn y meysydd hyn:
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Datrys Problemau Digidol a Chydweithio – “Digwyddiadau ar ffurf ‘hacathon’ lle mae pobl yn cael eu rhoi mewn timau ac yn gosod rhyw fath o her, fel arfer yn seiliedig ar godio, a bydd gennych gyfanswm penodol o amser ac yna cyflwyno eich ateb ac fel arfer mae yna dîm buddugol felly mae’n ddigwyddiad cydweithredol iawn”. Lles Digidol – “Rydym yn annog pobl i geisio dod i mewn i’r gwaith lle bo hynny’n bosibl ac mae Adnoddau Dynol yn cynnal sesiynau iechyd meddwl a lles ac yn enwedig y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. O fewn y timau digidol maen nhw’n gwneud mwy o bethau o’r enw ‘10% o’r amser’ lle argymhellir i bobl gamu i ffwrdd o’u gwaith bob yn ail ddydd Gwener a threulio diwrnod neu hanner diwrnod yn dysgu sgil newydd a allai fod yn sgil ddigidol neu’n gwrs neu unrhyw beth arall!”
Pa sgiliau digidol y mae’r BBC yn chwilio amdanynt yn eu gweithwyr a sut gall myfyrwyr ddangos y sgiliau hynny?: “Mae’n dibynnu ar y rôl mewn gwirionedd, y peth pwysig yw bod yn wybodus am dueddiadau cyfredol, er enghraifft bod yn ymwybodol ac â gwybodaeth am feddalwedd gyfredol ac ieithoedd [codio]. Ein cwestiwn allweddol yw “dywedwch wrthym pam mai chi sydd orau ar gyfer y rôl”, a dyna fyddai’r cyfle gorau i arddangos eich gwybodaeth a’ch sylfaen o sgiliau. Felly, soniwch am unrhyw brosiectau rydych wedi bod yn rhan ohonynt, yn enwedig prosiectau traethawd hir gan eu bod yn aml ar flaen y gad o ran sgiliau digidol. Ond er mor bwysig yw sgiliau digidol mae’r rhain yn sgiliau gallwn ddysgu pan fo rhywun yn y rôl felly mae sgiliau ac ymddygiadau personol eraill fel cydweithio yn bwysig iawn”.
Pa awgrymiadau fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr ddatblygu neu wella’r sgiliau hynny?: “Darllenwch y disgrifiad swydd ac os oes rhywbeth nad ydych wedi’i brofi o’r blaen defnyddiwch rywbeth fel LinkedIn Learning, Pluralsight neu YouTube hyd yn oed a cheisiwch wedyn weithio ar y sgiliau hynny eich hun er mwyn cyd-fynd â’r profiad y maen nhw’n chwilio amdano. Nid yw’n beth drwg cydnabod nad oes gennych brofiad o rywbeth cyn belled ag y gallwch ddweud rydw i’n barod i’w ddysgu”.
Beth nad ydych chi’n gweld digon ohono o ran y sgiliau digidol hyn?: “Yr hyn dw i’n sylwi’n bersonol yw ansawdd gwirioneddol y cais yn hytrach na’r sgiliau penodol sydd ar goll. Mae’n teimlo bod gennym ni bobl sy’n gadael y brifysgol wedi gwneud nifer o bethau anhygoel, ond does ganddyn nhw ddim profiad o ysgrifennu cais a heb gael unrhyw help.”
Mae ein pedwerydd Proffil Cyflogwr gyda gwasanaethau genetig Cogent Breeding UK. Mae Cogent UK yn gosod pwysigrwydd ar wybod sut i ddefnyddio Excel, bod â chrebwyll am ddata a meddu ar hyfedredd digidol sylfaenol a sgiliau datrys problemau; dysgwch fwy am ddatblygu’r sgiliau hyn o’r adnoddau isod.
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Wedi’i leoli yng Nghaer ond mae’n gweithredu ledled y DU ac yn rhyngwladol
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
Technegydd Labordy
Ymgynghorwyr Gwerthu a Geneteg
Cynorthwyydd Gweinyddol
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Hyfedredd Digidol a Datrys Problemau – Hyfedredd gyda meddalwedd cyfrifiadurol, sgiliau datrys problemau sylfaenol ar gyfer y cyfrifiaduron sy’n rhedeg ein peiriannau didoli a dealltwriaeth o fecaneg gyfrifiadurol. Llythrenned Ddigidol -Gallu defnyddio Excel ar gyfer rheoli data a dadansoddi samplau data a chwsmeriaid. Cyfathrebu Digidol – Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy e-bost a llwyfannau digidol eraill.
Meysydd Cyffredin i weithio arnynt: “Efallai na fydd gan lawer o raddedigion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ymarferol megis amaethyddiaeth neu wyddor anifeiliaid, brofiad gydag offer rheoli data fel Excel. Mae’n ymddangos bod gan raddedigion sy’n gweithio yn y labordai fwy o brofiad data, felly gall hwn fod yn faes sy’n cael ei anwybyddu yn y graddau mwy ymarferol.”
O ble rydyn ni’n recriwtio: “Rydym wedi recriwtio graddedigion o ystod amrywiol iawn o raddau megis cemeg, gwyddoniaeth fforensig, microbioleg a hyd yn oed cadwraeth bywyd gwyllt. Rydym yn agored i unrhyw raddedigion cyhyd â bod gennych y sgiliau a’r agwedd gywir, diddordeb yn yr hyn rydych yn ei wneud, parodrwydd i ddysgu a sylw brwd i fanylion.”
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yn ein gweithwyr: “Mae ein tîm yn cael ei yrru gan angerdd cyfunol dros amaethyddiaeth a dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant, ac rydym yn chwilio am yr un peth yn ein recriwtiaid newydd. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd craidd, sy’n onest ac ag ymarweddiad cadarnhaol. Os ydych chi’n hyderus, yn hyddysg am ddata, ac yn awyddus i ddysgu, rydyn ni eisiau i chi fod ar ein tîm ni.”
Mae ein trydydd Proffil Cyflogwr gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwerthfawrogi sgiliau sy’n ymwneud â hyfedredd digidol, dysgu digidol a chyfathrebu digidol; dysgwch fwy am ddatblygu’r sgiliau hyn o’n casgliadau LinkedIn Learning sydd wedi’u curadu isod.
Sefydlwyd: 1907 ac yn ei lleoliad presennol ers 1916
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Aberystwyth, Cymru
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
Cynorthwywyr Gweinyddol a Chyllid
Cynorthwywyr Llyfrgell ac Archifau
Cynorthwywyr Siop
Tîm Porthora
Cynorthwywyr Lletygarwch
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Hyfedredd Digidol – Adnoddau ar-lein ar gael drwy wefan y llyfrgell e.e. catalog casgliadau, llawysgrifau. Dysgu Digidol – Hyfforddiant ar becyn swyddfa MS, trawsgrifio casgliadau i fformat digidol, gwaith cadwraeth, sicrwydd ansawdd. Cyfathrebu Digidol – E-bost, Teams, Zoom a’r cyfryngau cymdeithasol.
Pa mor bwysig yw technoleg i’ch gwaith bob dydd?: “Mae technoleg yn cael ei defnyddio drwy’r llyfrgell, mae gennym fideos byw yn dangos clipiau o’n harchifau i gatalogau ar-lein.”
Pa fath o unigolyn fyddai’n gweddu’n dda i Lyfrgell Genedlaethol Cymru?: “Ar yr amod nad ydych yn ofni defnyddio technoleg, mae digon o gyfleoedd i chi yn y Llyfrgell. Darperir hyfforddiant llawn gan fod llawer o’n gwaith yn unigryw iawn ei natur.”
Ydy peidio â gallu siarad Cymraeg yn atal graddedigion rhag gwneud cais i weithio gyda chi?: “Bydd pob Disgrifiad Swydd yn nodi lefel y Gymraeg sydd ei hangen i ymgymryd â rôl. Mae ein swyddi blaen tŷ yn gofyn am y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond rydym yn fwy hamddenol gyda swyddi nad ydynt yn wynebu’r cyhoedd.”
Ydy Covid wedi newid y ffordd yr ydych yn gweithio?: “Cyn Covid, roedden ni i gyd yn gweithio ar y safle ac yn teithio i gyfarfodydd. Mae’r Llyfrgell bellach yn cynnig gweithio’n hybrid ac mae’r rhan fwyaf o’n cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y safle yn Aberystwyth neu drwy Teams.”
Mae ein hail Broffil Cyflogwr gyda Clicky Media sydd wedi’i leoli ledled y DU. Un o’r sgiliau digidol hanfodol y mae Clicky Media yn ei werthfawrogi yw hyfedredd gyda LinkedIn. Edrychwch ar rai adnoddau isod i ddysgu sut i ymgysylltu’n well â LinkedIn a sut i greu proffil atyniadol:
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Ar draws y Deyrnas Unedig
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
Rolau cynorthwyol mewn maes gwasanaeth penodol o farchnata digidol:
Optimeiddio peiriant chwilio
Hysbysebion Taledig
Negeseuon taledig ar y cyfryngau cymdeithasol
Cysylltiadau Cyhoeddus Digidol
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Dysgu Digidol – Ymgysylltu’n rhagweithiol â dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd newydd. Er enghraifft, sefyll arholiadau Google ar gyfer arholiadau a sgiliau digidol lefel mynediad yn Google analytics neu feddalwedd chwilio taledig. Hunaniaeth Ddigidol – Hyfedredd gyda LinkedIn a’i ddefnyddio i ymgysylltu â’r diwydiant ehangach a chyfathrebu ag ef. Creadigrwydd Digidol – Profiad o sefydlu gwefan
Sut beth fyddai diwrnod yn gweithio yn un o’ch rolau cynorthwyol?: “Byddai’n dibynnu ar yr adran, ond strwythur cyffredinol un o’n rolau cynorthwyol yw y byddech yn cael gwaith wedi’i glustnodi i chi gan y tîm ehangach ac yna cefnogi’r uwch dîm gyda’r gwaith ar gyfer cleientiaid. Felly, gallai fod yn unrhyw beth o dynnu ymchwil o wahanol lwyfannau, i helpu gyda chyflwyniad ar gyfer strategaeth cleientiaid.”
Beth yw’r nodweddion personol rydych chi’n chwilio amdanynt mewn gweithiwr newydd?: “Dycnwch, rhywun sydd eisiau dod i mewn i’r busnes a gyrru newid ac yna yn cyflawni’r amcanion hynny. Mae cael ymwybyddiaeth fasnachol yn wych ond mewn gwirionedd rydym yn chwilio am rywun sy’n gwybod beth maen nhw ei eisiau ac sy’n fodlon gweithio’n galed i’w gyflawni.”
Pa mor bwysig yw defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth farchnata?: “Mae LinkedIn yn beth mor fawr yn ein sector felly mae gallu ei ddefnyddio yn ddefnyddiol iawn. Mae gennym dîm cyfryngau cymdeithasol cyflogedig felly er nad ydym yn gwneud unrhyw beth yn organig, gall cael gwybodaeth am rai llwyfannau megis Meta a TikTok a sut mae pobl yn defnyddio’r rhain fod yn ddefnyddiol iawn o safbwynt darparu i gleientiaid.”
A oes gwendidau cyffredin o ran sgiliau digidol mewn graddedigion?: “Gwybodus am Excel ac â’r wybodaeth ddiweddaraf am y llwyfannau penodol yn bennaf. Mae graddedigion yn tueddu naill ai i beidio â gallu defnyddio systemau newydd yn gyflym iawn neu maent yn wybodus iawn am y llwyfannau, ond maen nhw am wneud popeth yn rhy gyflym, ac maen nhw’n torri corneli yn y pen draw, felly mae’n ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd rhwng y ddau mewn gwirionedd.”
Mae ein Proffil Cyflogwr cyntaf gyda Chwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth. Un o’r sgiliau digidol hanfodol y mae Arad Goch yn eu gwerthfawrogi fwyaf yw defnyddio meddalwedd Microsoft. Gallwch weld casgliadau wedi’u curadu ar LinkedIn Learning ar gyfer meddalwedd Microsoft isod:
Maint y Cwmni: 8 o staff parhaol ond hyd at 20 gyda chontractau dros dro
Sefydlwyd: 1989
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Aberystwyth
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
Technegwyr
Actorion
Swyddog Cyswllt ag Ysgolion
Cynorthwyydd Gweinyddol
Swyddog Marchnata
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni: Hyfedredd – Defnyddio meddalwedd Microsoft, meddalwedd cyflogres SAGE ar gyfer cyllid, rhaglenni meddalwedd ar gyfer rhedeg goleuadau cynhyrchu, sain ac ati. Creadigrwydd Digidol – Adobe Photoshop ar gyfer taflenni a phosteri, dylunio a diweddaru’r wefan, meddalwedd golygu fideo Cyfathrebu Digidol – Negeseuon e-bost a galwadau fideo
Pa mor bwysig yw’r cyfryngau cymdeithasol yn y busnes?: “Mae’n chwarae rôl mewn llawer o’n swyddi. Mae popeth drwy e-bost nawr ond byddai angen i’r swyddogion marchnata hyrwyddo ein digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ein holl gyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf o’n marchnata yn cael ei wneud trwy’r cyfryngau cymdeithasol nawr.”
Beth yw eich cyngor mwyaf i rywun sy’n ceisio cael swydd yn eich sector?: “Profiad! Rwy’n gwybod ei fod yn dipyn o gyfyng-gyngor oherwydd allwch chi ddim cael swydd heb gael y profiad ond mae cael y profiad hwnnw, hyd yn oed trwy wirfoddoli, wir yn agor drysau!””
Ydych chi’n meddwl bod pobl yn anwybyddu pwysigrwydd sgiliau digidol yn y diwydiannau creadigol?: “Ydyn, mae’n rhan bwysig iawn o’n diwydiant. Mae dangos yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn ffordd dda o gyfleu’r neges ac felly er enghraifft rydym yn gwneud fideos o’r cynyrchiadau i ennyn diddordeb pobl. Felly mae sgiliau mewn marchnata digidol er enghraifft yn hanfodol i ni.”
Beth nad ydych chi’n gweld digon ohono o ran y sgiliau digidol hyn?: “Mae technegwyr yn brin iawn felly mae dod o hyd i bobl ar gyfer y rolau hynny yn eithaf anodd. Nid yw’n ymddangos bod gan lawer o bobl brofiad o farchnata chwaith.”
Yr wythnos hon bydd ein cyfres saith wythnos o Broffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr yn dechrau. Yn debyg i’r Gyfres Proffiliau Graddedigion a ryddhawyd gennym y llynedd, mae’r gyfres Proffiliau Cyflogwyr yn gyfres o broffiliau gan amrywiaeth o gyflogwyr i helpu i weld pa sgiliau digidol sy’n hanfodol a gwerthfawr ar draws proffesiynau amrywiol. Bydd proffil newydd yn cael ei ryddhau bob dydd Iau am 11:30 gan ddechrau’r wythnos hon gyda chwmni theatr Arad Goch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y proffiliau newydd bob wythnos a gallwch fynd yn ôl a darllen ein Cyfres Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion yma.