Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 1 – Arad Goch

Mae ein Proffil Cyflogwr cyntaf gyda Chwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth. Un o’r sgiliau digidol hanfodol y mae Arad Goch yn eu gwerthfawrogi fwyaf yw defnyddio meddalwedd Microsoft. Gallwch weld casgliadau wedi’u curadu ar LinkedIn Learning ar gyfer meddalwedd Microsoft isod:

Fersiwn Testun:

Cwmni: Cwmni Theatr Arad Goch

Maint y Cwmni: 8 o staff parhaol ond hyd at 20 gyda chontractau dros dro

Sefydlwyd: 1989

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Aberystwyth

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

  • Technegwyr
  • Actorion
  • Swyddog Cyswllt ag Ysgolion
  • Cynorthwyydd Gweinyddol
  • Swyddog Marchnata

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hyfedredd – Defnyddio meddalwedd Microsoft, meddalwedd cyflogres SAGE ar gyfer cyllid, rhaglenni meddalwedd ar gyfer rhedeg goleuadau cynhyrchu, sain ac ati.
Creadigrwydd Digidol – Adobe Photoshop ar gyfer taflenni a phosteri, dylunio a diweddaru’r wefan, meddalwedd golygu fideo
Cyfathrebu Digidol – Negeseuon e-bost a galwadau fideo

Pa mor bwysig yw’r cyfryngau cymdeithasol yn y busnes?:
“Mae’n chwarae rôl mewn llawer o’n swyddi. Mae popeth drwy e-bost nawr ond byddai angen i’r swyddogion marchnata hyrwyddo ein digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ein holl gyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf o’n marchnata yn cael ei wneud trwy’r cyfryngau cymdeithasol nawr.”

Beth yw eich cyngor mwyaf i rywun sy’n ceisio cael swydd yn eich sector?:
“Profiad! Rwy’n gwybod ei fod yn dipyn o gyfyng-gyngor oherwydd allwch chi ddim cael swydd heb gael y profiad ond mae cael y profiad hwnnw, hyd yn oed trwy wirfoddoli, wir yn agor drysau!””

Ydych chi’n meddwl bod pobl yn anwybyddu pwysigrwydd sgiliau digidol yn y diwydiannau creadigol?:
“Ydyn, mae’n rhan bwysig iawn o’n diwydiant. Mae dangos yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn ffordd dda o gyfleu’r neges ac felly er enghraifft rydym yn gwneud fideos o’r cynyrchiadau i ennyn diddordeb pobl. Felly mae sgiliau mewn marchnata digidol er enghraifft yn hanfodol i ni.”

Beth nad ydych chi’n gweld digon ohono o ran y sgiliau digidol hyn?:
“Mae technegwyr yn brin iawn felly mae dod o hyd i bobl ar gyfer y rolau hynny yn eithaf anodd. Nid yw’n ymddangos bod gan lawer o bobl brofiad o farchnata chwaith.”

Gwefan Arad Goch

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

TipDigidol 39: Gorau arf, ymarfer: Amseroedd ymarfer yn PowerPoint 🥇

Os oes angen i chi roi cyflwyniad o fewn terfyn amser caeth, efallai yr hoffech ymarfer i gael yr amseru’n berffaith. Gyda ThipDigidol 39, gallwch ddysgu sut i ymarfer eich cyflwyniad a gweld faint o amser a ddefnyddiwyd gennych fesul sleid. Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i ymarfer: 

Noder y bydd angen i chi ddiffodd amseriadau sleidiau cyn i chi gyflwyno er mwyn newid y sleidiau â llaw, gallwch ddysgu sut i wneud hyn yma: Ymarfer ac amseru cyflwyniad – Cymorth Microsoft 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Cyflwyno ein cyfres newydd o ‘Broffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr’!

Yr wythnos hon bydd ein cyfres saith wythnos o Broffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr yn dechrau. Yn debyg i’r Gyfres Proffiliau Graddedigion a ryddhawyd gennym y llynedd, mae’r gyfres Proffiliau Cyflogwyr yn gyfres o broffiliau gan amrywiaeth o gyflogwyr i helpu i weld pa sgiliau digidol sy’n hanfodol a gwerthfawr ar draws proffesiynau amrywiol. Bydd proffil newydd yn cael ei ryddhau bob dydd Iau am 11:30 gan ddechrau’r wythnos hon gyda chwmni theatr Arad Goch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y proffiliau newydd bob wythnos a gallwch fynd yn ôl a darllen ein Cyfres Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion yma.

TipDigidol 38: Creu mapiau meddwl gydag Ayoa 🌟  

P’un ai eich bod yn trafod syniadau newydd, yn adolygu ar gyfer arholiad, neu’n cymryd nodiadau, gall mapiau meddwl fod yn adnodd effeithiol ar gyfer datrys problemau, cofio gwybodaeth, a llawer mwy! 

Mae Ayoa yn feddalwedd dwyieithog sy’n eich galluogi i greu cymaint o fapiau meddwl ag y dymunwch am ddim. Gallwch ddarllen mwy am Ayoa yn ein blogbost blaenorol. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 37: Diwygiwch eich gwaith gyda Chyfystyron yn Word 🔀

Ydych chi erioed wedi ceisio meddwl am air gwahanol i ddiwygio eich brawddeg? Nid oes angen pendroni mwyach! Gyda Thipdigidol 37, dysgwch sut i ddefnyddio’r nodwedd cyfystyron yn Word. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam isod neu gwyliwch y fideo byr i ddysgu mwy! 

Yn syml: 

  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y gair o’ch dewis  
  • Daliwch y llygoden dros ‘cyfystyron’  
  • Dewiswch air newydd! 
  • Dal ddim yn gweld gair priodol? Dewiswch thesawrws i weld mwy! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 36: Ymatebion i e-byst yn Outlook 👍🎉 

Efallai y bydd adegau pan fydd rhywun wedi anfon e-bost atoch, a hoffech gydnabod ei dderbyn heb anfon ateb arall. Nodwedd wych i’w defnyddio yn yr achos hwn yw’r nodwedd ymateb yn Outlook, sy’n gweithio’n debyg i’r rhai yn MS Teams neu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol. 

I ymateb i e-bost, cliciwch ar y botwm wyneb hapus ar frig eich sgrin. Yna gallwch ddewis o chwe emoji, yn amrywio o fawd i fyny 👍 i wyneb trist! 😥 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 35: Diogelwch eich sgrin gyda Windows + Cloi! 🔒

A oes arnoch angen cloi’ch sgrin yn gyflymach na mynd trwy’r ddewislen Dechrau? Mae TipDigidol 35 yn cynnig datrysiad i chi!  

Oeddech chi’n gwybod y gallwch gloi’ch sgrin yn gyflym trwy ddewis y fysell Windows a phwyso ‘L’.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

💻Nodyn i’ch atgoffa: Safle Blackboard ‘Hanfodon Digidol GG ar gyfer Dysgu’

Ym mis Medi 2023, gwnaethom lansio safle Blackboard newydd ‘Hanfodion Digidol GG ar gyfer Dysgu’. Mae’r safle yn benllanw adnoddau gan y Gwasanaethau Gwybodaeth y gallai aelodau newydd o staff academaidd fod eu hangen. Mae hyn yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer popeth sydd angen i chi ei gwblhau cyn i chi ddechrau addysgu, yn ogystal â gwybodaeth a mynediad at adnoddau y gallai fod eu hangen arnoch ar hyn o bryd, neu efallai yr hoffech ddysgu trwy gyfrwng technoleg.  

Dyma neges i atgoffa’r holl staff academaidd bod safle Blackboard yn dal i fod ar gael i gefnogi unrhyw staff newydd neu bresennol. Edrychwch ar wefan Blackboard i ddysgu mwy.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael trafferth cael mynediad i’r cwrs. Cysylltwch â ni ar digi@aber.ac.uk 

TipDigidol 34: Gwneud sgyrsiau MS Teams yn haws i’w darllen gyda phwyntiau bwled 💬 

Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod MS Teams lle mae angen i chi anfon rhestr gyflym sy’n hawdd i eraill ei darllen? Mae dwy ffordd gyflym o greu pwyntiau bwled neu restrau wedi’u rhifo mewn unrhyw sgwrs MS Teams.

Opsiwn 1

Gallwch naill ai glicio ar yr eicon fformat yn y sgwrs, a gallwch greu pwyntiau bwled neu restr wedi’i rhifo’n hawdd oddi yma.

Opsiwn 2

Neu os ydych chi mewn sgwrs Teams: 

  • Pwyswch ac yna’r bar gofod i ddechrau eich pwyntiau bwled 
  • Pwyswch 1. ac yna’r bar gofod i ddechrau eich rhestr wedi’i rhifo 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!