TipDigidol 79 – Ticiwch eich Tasgau gyda Blychau Ticio Microsoft Excel ✅

Gall Excel fod yn ffordd wych o gynllunio, amserlennu a chadw golwg ar bethau fel cyllidebau neu dasgau prosiect. Ond oeddech chi’n gwybod y gallwch chi fewnosod blychau ticio yn eich taenlen fel y gallwch chi wirio’ch gwaith yn hawdd. I wneud hyn, ewch i mewnosod > blwch ticio. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 78 – Shhhh gyda Microsoft Teams ‘Oriau Tawel’ 🤫

Os ydych chi’n cael trafferth cydbwyso bywyd a gwaith, gall TipDigidol 78 helpu. Oeddech chi’n gwybod y gallwch osod ‘oriau tawel’ ar ap ffôn Microsoft Teams fel nad ydych chi’n derbyn hysbysiadau y tu allan i’ch oriau gwaith. Ar yr ap, ewch i Notifications > Block Notifications > Block during quiet hours. Gallwch osod yr amseroedd penodol i beidio â derbyn hysbysiadau a rhwystro hysbysiadau ar gyfer penwythnosau. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!