TipDigidol 73 – Pŵer wrth Ailstrwythuro’ch Traethawd ↕️

Wrth ysgrifennu traethawd, ydych chi erioed wedi sylwi nad yw llif y traethawd yn gweithio’n iawn? Mae TipDigidol 73 ar eich cyfer chi! O fewn Microsoft Word gallwch symud paragraffau cyfan i fyny neu i lawr trwy ddefnyddio’r llwybr byr Alt + Shift + saethau i fyny / i lawr. Edrychwch ar y fideo byr isod am arddangosiad cyflym. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 72 – Sganio’ch Dogfennau gyda Microsoft Lens 📸

 Os oes gennych nodiadau mewn llawysgrifen yr hoffech eu digido, dysgwch ffordd gyflym a hawdd o wneud hyn gyda ThipDigidol 72! Gan ddefnyddio Microsoft Lens, gallwch sganio nodiadau mewn llawysgrifen yn hawdd gan ddefnyddio’ch ffôn a’ch cyfrif Prifysgol Aberystwyth. Gellir uwchlwytho’r nodiadau hyn yn awtomatig fel delweddau i Microsoft OneNote. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 71 – Tawelwch eich Cyfryngau Cymdeithasol gyda ScreenZen 🧘🏻‍♀️

Ydych chi’n cael trafferth gyda sgrolio difeddwl neu dreulio gormod o amser ar eich ffôn? Gall TipDigidol 71 helpu trwy eich cyflwyno i ScreenZen! Mae ScreenZen yn blocio’r apiau dethol rydych chi’n cael trafferth gyda nhw gan wneud i chi ystyried pam eich bod yn agor yr ap. Gallwch ddarllen mwy am yr ap ScreenZen a’i nodweddion yn ein blogbost blaenorol. 


I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 70 – Docio OneNote: Docio OneNote gyda Ctrl + Alt + D 📒

Os ydych chi’n gweithio ar un sgrin ac eisiau teipio’ch nodiadau i mewn i OneNote pan fyddwch mewn cyfarfod, gallwch wneud hynny’n rhwydd gyda Dock OneNote. Yn OneNote, defnyddiwch y llwybr byr Ctrl + Alt + D a bydd eich OneNote yn dod yn banel ochr, gan ei gwneud hi’n haws gwneud nodiadau. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!