
Gyda ThipDigidol 69, byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio adnodd Focus Microsoft Word sy’n eich galluogi i ysgrifennu heb ymyriadau. Yn Microsoft Word ewch i View > Focus, bydd hyn yn rhoi eich dogfen mewn Ffocws, gan dynnu’r rhuban uchaf a chanoli’r ddogfen ar eich sgrin. I adael y modd ffocws, pwyswch y fysell Esc.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!