TipDigidol 68 – Addasu eich Cyrchwr 🖱️

Os ydych chi’n aml yn chwilio am eich cyrchwr ar eich sgrin neu os ydych chi’n arddangos rhywbeth ac eisiau i gyfranogwyr ddilyn yn hawdd, mae’r TipDigidol hwn ar eich cyfer chi. Ar eich cyfrifiadur Windows ewch i Settings > Accessibility > Mouse Pointer ac addasu yn ôl eich ffafriaeth! Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad cyflym. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 67 – Cyfrif ar My Row Counter 🧶

Gyda chynnydd y poblogrwydd mewn crosio a gwau, mae apiau wedi’u creu i gefnogi datblygiad. Apiau megis ‘My Row Counter’ sydd â nodweddion megis patrymau am ddim, geirfa, trawsnewidydd unedau a chrëwr patrymau. Edrychwch ar y lluniau isod i gael cipolwg cyflym ar My Row Counter.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 66 – Tacluswch eich dogfennau PowerPoint gyda ‘Dylunydd’ 🖌️

A hoffech chi wneud eich cyflwyniadau PowerPoint yn fwy diddorol? Ond nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau? Beth am ddefnyddio’r adnodd ‘Dylunydd’ yn PowerPoint. Mae’r adnodd Dylunydd yn cyflwyno syniadau a gynhyrchwyd i wneud i’ch sleidiau edrych yn fwy diddorol. Edrychwch ar y fideo byr isod am arddangosiad cyflym. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Dyma ein hoff adeg o’r flwyddyn – mae’r TipDigidol yn dychwelyd! 👋🏻

Gan ddechrau’r wythnos nesaf, bydd TipDigidol yn dychwelyd. Ymunwch â ni am negeseuon wythnosol am ein hoff awgrymiadau a thriciau digidol i helpu i wella eich sgiliau digidol. Os nad ydych wedi gweld ein TipDigiol blaenorol, gallwch eu gweld i gyd yma. Cofiwch gadw i fyny â’n TipDigidol a’r holl negeseuon sgiliau digidol eraill trwy danysgrifio i’r blog