Cynhelir y seremonïau graddio yr wythnos hon o ddydd Mawrth 15 Gorffennaf i ddydd Iau 17 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly rydym eisiau dathlu ein graddedigion. Y llynedd, creodd ein Hyrwyddwyr Digidol y proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion a’r Proffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr. Mae’r Sgiliau Digidol Graddedigion yn edrych yn fanwl ar fywyd ar ôl graddio i’n graddedigion diweddar yn ogystal â’r sgiliau yr hoffent fod wedi’u datblygu yn y brifysgol. Yn y cyfamser, mae’r proffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr yn adolygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn myfyrwyr sydd newydd raddio. Darllenwch y proffiliau isod i gael mwy o wybodaeth!

- Myfyriwr Graddedig Troseddeg
- Myfyriwr Graddedig Gwneud Ffilmiau
- Myfyriwr Graddedig Seicoleg a Throseddeg
- Myfyriwr Graddedig Ffiseg
- Myfyriwr Graddedig Celfyddyd Gain ac Astudiaethau Ffilm a Theledu
- Myfyriwr Graddedig Biocemeg
- Myfyriwr Graddedig Swoleg
- Myfyriwr Graddedig Hanes a Gwleidyddiaeth
