Heddiw – 21 Mawrth 2025 – yw Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ac i ddathlu rydyn ni’n ailymweld â phob blogbost a ThipDigidol sy’n gysylltiedig â natur!
- Gadewch i’ch Cynhyrchiant Ffynnu gyda’r ap Flora! 🌼: Mae Flora yn ap cynhyrchiant rhyngweithiol lle gallwch storio rhestrau o bethau i’w gwneud a meithrin arferion cadarnhaol, ac mae ar gael ar iOS ac Android.
- TipDigidol 40: Cysylltu â natur gyda Seek gan iNaturalist🔎🌼: Efallai y dewch ar draws adar, planhigion, ffyngau, ac amffibiaid na allwch eu hadnabod. Gan ddefnyddio technoleg adnabod delweddau, bydd yr ap Seek by iNaturalist yn eich helpu i fynd â’ch gwybodaeth am natur i’r lefel nesaf!
- Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻: Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.
- TipDigi 4 – Cyfle i wella eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned, gyda’r Forest App 🌱: Ydych chi eisiau cynyddu eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned? Bydd y Forest App yn helpu i leihau oedi ac amhariadau a rhoi’r cymhelliant ychwanegol i chi aros yn gynhyrchiol, trwy dyfu coed ac ennill darnau arian rhithwir i ddatgloi planhigion newydd gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn gynhyrchiol.