Heddiw rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema 2025 yw #Cyflymu’rGweithredu ac mae’n neges bwysig sy’n canolbwyntio ar gyflymu cyflawniad cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ar hyn o bryd rhagwelir na fyddwn yn cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau tan 2158 ac felly mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn galw arnom i gydweithio i greu byd mwy cynhwysol. Gallwch edrych ar yr adnoddau isod sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’r rhain yn cynnwys detholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning, nodwch y bydd tanysgrifiad y Brifysgol i LinkedIn Learning yn dod i ben ar 28 Mawrth 2025. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, edrychwch ar ein blogbost blaenorol i ddysgu mwy am hyn.
- Code First Girls: Mae Code First Girls yn wasanaeth ar-lein rhad ac am sydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ac sy’n ymroddedig i ddarparu cyrsiau codio i helpu menywod a phobl anneuaidd i ddatblygu eu sgiliau codio.
- What is equality? (3m 43e)
- What is equity? (2m 19e)
- Unconscious bias (28m)
Os ydych chi’n cael trafferth gweld fideos neu gyrsiau LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).