TipDigidol 55: Modd ‘Focus’ yn Windows 11 ⏱️

Ydych chi’n cael trafferth cwblhau eich gwaith? Mae gan DipDigidol 55 yr ateb gyda’r modd ‘Focus’ yn Windows 11. Mae’r modd ‘Focus’ yn nodwedd newydd ar gyfer Windows 11 sydd â nodweddion lluosog i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys: Amserydd y gellir ei osod i ba bynnag amser sydd ei angen arnoch wedi’i osod yn ddiofyn i 30 munud, cuddio’r bathodynnau ar apiau’r bar tasgau, cuddio’r fflachio ar apiau’r bar tasgau a throi’r modd ‘peidiwch â tharfu’ ymlaen. 

I ddefnyddio’r nodwedd hon, mae angen i chi fynd i Settings -> System lle dylech weld Focus. Pan fyddwch wedi dewis yr opsiynau priodol mae angen clicio ar ‘start focus session’ a dylai’r amserydd ymddangos yng nghornel eich sgrin a gallwch ei ganslo neu ei oedi ar unrhyw adeg. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*