Weithiau, gall cyfnewid o wahanol benawdau yn Word fod yn boen, ond gyda ThipDigidol 58 does dim rhaid iddo fod yn boen mwyach!
Defnyddiwch y llwybr byr syml: Ctrl + Shift + S i gyfnewid yn hawdd rhwng yr holl wahanol arddulliau pennawd sydd ar gael yn Word.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Mae ychydig dros wythnos o hyd nes i’n tanysgrifiad i LinkedIn Learning ddod i ben. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, mae gennych ychydig dros wythnos i’w lawrlwytho. Gallwch weld sut i wneud hyn drwy wylio’r fideo isod.
Heddiw – 21 Mawrth 2025 – yw Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ac i ddathlu rydyn ni’n ailymweld â phob blogbost a ThipDigidol sy’n gysylltiedig â natur!
Gadewch i’ch Cynhyrchiant Ffynnu gyda’r ap Flora! 🌼: Mae Flora yn ap cynhyrchiant rhyngweithiol lle gallwch storio rhestrau o bethau i’w gwneud a meithrin arferion cadarnhaol, ac mae ar gael ar iOS ac Android.
TipDigidol 40: Cysylltu â natur gyda Seek gan iNaturalist🔎🌼: Efallai y dewch ar draws adar, planhigion, ffyngau, ac amffibiaid na allwch eu hadnabod. Gan ddefnyddio technoleg adnabod delweddau, bydd yr ap Seek by iNaturalist yn eich helpu i fynd â’ch gwybodaeth am natur i’r lefel nesaf!
TipDigi 4 – Cyfle i wella eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned, gyda’r Forest App 🌱: Ydych chi eisiau cynyddu eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned? Bydd y Forest App yn helpu i leihau oedi ac amhariadau a rhoi’r cymhelliant ychwanegol i chi aros yn gynhyrchiol, trwy dyfu coed ac ennill darnau arian rhithwir i ddatgloi planhigion newydd gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn gynhyrchiol.
Ydych chi eisiau cyfrif sawl gwaith mae enw’n ymddangos mewn colofn ochr yn ochr ag amodau eraill yn Excel? Gyda TipDigidol 57 gallwn ddangos y fformiwla i chi wneud hyn.
Yn gyntaf bydd angen data tebyg i’r hyn a ddangosir yn y sgrinlun lle mae gennych chi sawl colofn o wybodaeth a lle’r hoffech chi gyfrif faint o feini prawf penodol sy’n bodoli megis enwau neu ddyddiadau er enghraifft
I wneud hyn bydd angen i ni ddefnyddio’r nodwedd COUNTIFS yn y tab fformiwla, dangosir hyn yn y sgrinlun isod.
Mae hyn yn cymryd yr ystod meini prawf sef y golofn enwau yn yr enghraifft ac yna’r meini prawf ei hun, sef yr enw Chris yn E2 yn yr enghraifft. Hefyd wedi’i gynnwys yn yr enghraifft y mae ystod meini prawf arall o’r golofn o anrhegion a’r meini prawf Siocled. Bydd hyn wedyn yn mynd trwy’r holl wybodaeth ac ond yn cyfrif pan fydd y ddau faen prawf hyn yn cael eu bodloni.
Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar raddfa fwy ar gyfer olrhain unrhyw gyfanswm o bethau sy’n digwydd ar daenlen.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Os ydych chi eisiau i’ch cyflwyniadau gyrraedd y lefel nesaf gallech geisio mewnosod cameo, dysgwch sut gyda ThipDigidol 56!
Cameo yw recordiad ohonoch chi’ch hun yn siarad trwy’ch sleidiau ac yn cyflwyno eich PowerPoint.
Gallwch weld sut i wneud hyn drwy’r fideo isod.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Heddiw rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema 2025 yw #Cyflymu’rGweithredu ac mae’n neges bwysig sy’n canolbwyntio ar gyflymu cyflawniad cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ar hyn o bryd rhagwelir na fyddwn yn cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau tan 2158 ac felly mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn galw arnom i gydweithio i greu byd mwy cynhwysol. Gallwch edrych ar yr adnoddau isod sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’r rhain yn cynnwys detholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning, nodwch y bydd tanysgrifiad y Brifysgol i LinkedIn Learning yn dod i ben ar 28 Mawrth 2025. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, edrychwch ar ein blogbost blaenorol i ddysgu mwy am hyn.
Code First Girls: Mae Code First Girls yn wasanaeth ar-lein rhad ac am sydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ac sy’n ymroddedig i ddarparu cyrsiau codio i helpu menywod a phobl anneuaidd i ddatblygu eu sgiliau codio.
Ydych chi’n cael trafferth cwblhau eich gwaith? Mae gan DipDigidol 55 yr ateb gyda’r modd ‘Focus’ yn Windows 11. Mae’r modd ‘Focus’ yn nodwedd newydd ar gyfer Windows 11 sydd â nodweddion lluosog i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys: Amserydd y gellir ei osod i ba bynnag amser sydd ei angen arnoch wedi’i osod yn ddiofyn i 30 munud, cuddio’r bathodynnau ar apiau’r bar tasgau, cuddio’r fflachio ar apiau’r bar tasgau a throi’r modd ‘peidiwch â tharfu’ ymlaen.
I ddefnyddio’r nodwedd hon, mae angen i chi fynd i Settings -> System lle dylech weld Focus. Pan fyddwch wedi dewis yr opsiynau priodol mae angen clicio ar ‘start focus session’ a dylai’r amserydd ymddangos yng nghornel eich sgrin a gallwch ei ganslo neu ei oedi ar unrhyw adeg.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!