
Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i LinkedIn Learning yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, mae gennych ychydig dros fis i’w lawrlwytho. Gallwch weld sut i wneud hyn drwy wylio’r fideo isod.
Os nad ydych wedi defnyddio LinkedIn Learning o’r blaen, mae amser o hyd i chi fewngofnodi a defnyddio’r adnodd hwn i ddatblygu eich sgiliau digidol! Ewch i’n tudalen we am ragor o gyfarwyddyd.