11 Chwefror 2025 yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Gwyddoniaeth, sy’n hyrwyddo pwysigrwydd menywod yn y meysydd STEM a’r gwerth parhaus o ran darparu adnoddau a mannau agored i fenywod ddatblygu eu sgiliau.
Adnodd allweddol sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth i bob menyw ac unigolyn anneuaidd yw Code First Girls. Mae Code First Girls yn wasanaeth ar-lein rhad ac am sydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ac sy’n ymroddedig i ddarparu cyrsiau codio i helpu menywod a phobl anneuaidd i ddatblygu eu sgiliau codio. Cynhaliodd Code First Girls sesiwn yng Ngŵyl Sgiliau Digidol 2023, gallwch wylio’r sesiwn lle buont yn trafod mwy am y rhaglenni a’r cyrsiau y maent yn eu darparu a phwysigrwydd eu gwaith.
Cymerodd aelod o’r Tîm Sgiliau Digidol ran yn un o’r cyrsiau a ddarparwyd gan Code First Girls, gallwch ddarllen am eu profiad trwy eu blogbost yma. Neu gallwch ddarllen am eu 5 rheswm pam y dylech gofrestru gyda Code First Girls.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Code First Girls neu os hoffech gofrestru ar gyfer un o’u cyrsiau, ewch i’w gwefan.
Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd hyn ar ein gweddalen adnoddau allanol rhad ac am ddim.
![](http://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/files/2024/04/cfg-banner_63401031-1024x241.png)