Ydych chi eisiau ychwanegu ffyrdd diddorol o gyflwyno’ch data yn MS Excel? Gall TipDigidol 49 helpu gyda hynny trwy gyflwyno Sparklines. Mae Sparklines yn graffiau bach sydd ond yn cymryd un gell mewn dalen Excel ac yn ffordd effeithiol o gyflwyno data heb orfod cael graff sy’n llenwi dalen gyfan. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data sy’n bwysig ond nad yw’n hanfodol i gyflwyniad.
- Yn gyntaf, mae angen i chi gael cyfanswm priodol o ddata fel y dangosir.
- Yna dewiswch y Celloedd rydych chi am eu defnyddio i gyflwyno’r data a mynd i ‘mewnosod’ yn y tabiau a dewis y math o graff yr hoffech ei gael gan Sparklines.
- Dewiswch yr ystod ddata yr hoffech ei defnyddio, sef B2; F4 yn yr enghraifft.
- A dyna ni; dylech gael graff sy’n cyflwyno’r data i gyd mewn un gell.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!