Mae ein pedwerydd Proffil Cyflogwr gyda gwasanaethau genetig Cogent Breeding UK. Mae Cogent UK yn gosod pwysigrwydd ar wybod sut i ddefnyddio Excel, bod â chrebwyll am ddata a meddu ar hyfedredd digidol sylfaenol a sgiliau datrys problemau; dysgwch fwy am ddatblygu’r sgiliau hyn o’r adnoddau isod.
- Gŵyl Sgiliau Digidol 2023: Excel for Large Datasets!
- Microsoft Excel: Awgrymiadau a Thriciau
- Ymchwil Digidol a Datrys Problemau
Fersiwn Testun:
Cwmni: Cogent Breeding UK
Maint y Cwmni: 250 o weithwyr
Sefydlwyd: 1995
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Wedi’i leoli yng Nghaer ond mae’n gweithredu ledled y DU ac yn rhyngwladol
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
- Technegydd Labordy
- Ymgynghorwyr Gwerthu a Geneteg
- Cynorthwyydd Gweinyddol
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hyfedredd Digidol a Datrys Problemau – Hyfedredd gyda meddalwedd cyfrifiadurol, sgiliau datrys problemau sylfaenol ar gyfer y cyfrifiaduron sy’n rhedeg ein peiriannau didoli a dealltwriaeth o fecaneg gyfrifiadurol.
Llythrenned Ddigidol -Gallu defnyddio Excel ar gyfer rheoli data a dadansoddi samplau data a chwsmeriaid.
Cyfathrebu Digidol – Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy e-bost a llwyfannau digidol eraill.
Meysydd Cyffredin i weithio arnynt:
“Efallai na fydd gan lawer o raddedigion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ymarferol megis amaethyddiaeth neu wyddor anifeiliaid, brofiad gydag offer rheoli data fel Excel. Mae’n ymddangos bod gan raddedigion sy’n gweithio yn y labordai fwy o brofiad data, felly gall hwn fod yn faes sy’n cael ei anwybyddu yn y graddau mwy ymarferol.”
O ble rydyn ni’n recriwtio:
“Rydym wedi recriwtio graddedigion o ystod amrywiol iawn o raddau megis cemeg, gwyddoniaeth fforensig, microbioleg a hyd yn oed cadwraeth bywyd gwyllt. Rydym yn agored i unrhyw raddedigion cyhyd â bod gennych y sgiliau a’r agwedd gywir, diddordeb yn yr hyn rydych yn ei wneud, parodrwydd i ddysgu a sylw brwd i fanylion.”
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yn ein gweithwyr:
“Mae ein tîm yn cael ei yrru gan angerdd cyfunol dros amaethyddiaeth a dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant, ac rydym yn chwilio am yr un peth yn ein recriwtiaid newydd. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd craidd, sy’n onest ac ag ymarweddiad cadarnhaol. Os ydych chi’n hyderus, yn hyddysg am ddata, ac yn awyddus i ddysgu, rydyn ni eisiau i chi fod ar ein tîm ni.”
Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr