Mae ein trydydd Proffil Cyflogwr gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwerthfawrogi sgiliau sy’n ymwneud â hyfedredd digidol, dysgu digidol a chyfathrebu digidol; dysgwch fwy am ddatblygu’r sgiliau hyn o’n casgliadau LinkedIn Learning sydd wedi’u curadu isod.
Fersiwn Testun:
Cwmni: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Maint y Cwmni: 230
Sefydlwyd: 1907 ac yn ei lleoliad presennol ers 1916
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Aberystwyth, Cymru
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
- Cynorthwywyr Gweinyddol a Chyllid
- Cynorthwywyr Llyfrgell ac Archifau
- Cynorthwywyr Siop
- Tîm Porthora
- Cynorthwywyr Lletygarwch
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hyfedredd Digidol – Adnoddau ar-lein ar gael drwy wefan y llyfrgell e.e. catalog casgliadau, llawysgrifau.
Dysgu Digidol – Hyfforddiant ar becyn swyddfa MS, trawsgrifio casgliadau i fformat digidol, gwaith cadwraeth, sicrwydd ansawdd.
Cyfathrebu Digidol – E-bost, Teams, Zoom a’r cyfryngau cymdeithasol.
Pa mor bwysig yw technoleg i’ch gwaith bob dydd?:
“Mae technoleg yn cael ei defnyddio drwy’r llyfrgell, mae gennym fideos byw yn dangos clipiau o’n harchifau i gatalogau ar-lein.”
Pa fath o unigolyn fyddai’n gweddu’n dda i Lyfrgell Genedlaethol Cymru?:
“Ar yr amod nad ydych yn ofni defnyddio technoleg, mae digon o gyfleoedd i chi yn y Llyfrgell. Darperir hyfforddiant llawn gan fod llawer o’n gwaith yn unigryw iawn ei natur.”
Ydy peidio â gallu siarad Cymraeg yn atal graddedigion rhag gwneud cais i weithio gyda chi?:
“Bydd pob Disgrifiad Swydd yn nodi lefel y Gymraeg sydd ei hangen i ymgymryd â rôl. Mae ein swyddi blaen tŷ yn gofyn am y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond rydym yn fwy hamddenol gyda swyddi nad ydynt yn wynebu’r cyhoedd.”
Ydy Covid wedi newid y ffordd yr ydych yn gweithio?:
“Cyn Covid, roedden ni i gyd yn gweithio ar y safle ac yn teithio i gyfarfodydd. Mae’r Llyfrgell bellach yn cynnig gweithio’n hybrid ac mae’r rhan fwyaf o’n cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y safle yn Aberystwyth neu drwy Teams.”
Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr