TipDigidol 36: Ymatebion i e-byst yn Outlook 👍🎉 

Efallai y bydd adegau pan fydd rhywun wedi anfon e-bost atoch, a hoffech gydnabod ei dderbyn heb anfon ateb arall. Nodwedd wych i’w defnyddio yn yr achos hwn yw’r nodwedd ymateb yn Outlook, sy’n gweithio’n debyg i’r rhai yn MS Teams neu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol. 

I ymateb i e-bost, cliciwch ar y botwm wyneb hapus ar frig eich sgrin. Yna gallwch ddewis o chwe emoji, yn amrywio o fawd i fyny 👍 i wyneb trist! 😥 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 35: Diogelwch eich sgrin gyda Windows + Cloi! 🔒

A oes arnoch angen cloi’ch sgrin yn gyflymach na mynd trwy’r ddewislen Dechrau? Mae TipDigidol 35 yn cynnig datrysiad i chi!  

Oeddech chi’n gwybod y gallwch gloi’ch sgrin yn gyflym trwy ddewis y fysell Windows a phwyso ‘L’.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

💻Nodyn i’ch atgoffa: Safle Blackboard ‘Hanfodon Digidol GG ar gyfer Dysgu’

Ym mis Medi 2023, gwnaethom lansio safle Blackboard newydd ‘Hanfodion Digidol GG ar gyfer Dysgu’. Mae’r safle yn benllanw adnoddau gan y Gwasanaethau Gwybodaeth y gallai aelodau newydd o staff academaidd fod eu hangen. Mae hyn yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer popeth sydd angen i chi ei gwblhau cyn i chi ddechrau addysgu, yn ogystal â gwybodaeth a mynediad at adnoddau y gallai fod eu hangen arnoch ar hyn o bryd, neu efallai yr hoffech ddysgu trwy gyfrwng technoleg.  

Dyma neges i atgoffa’r holl staff academaidd bod safle Blackboard yn dal i fod ar gael i gefnogi unrhyw staff newydd neu bresennol. Edrychwch ar wefan Blackboard i ddysgu mwy.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael trafferth cael mynediad i’r cwrs. Cysylltwch â ni ar digi@aber.ac.uk 

TipDigidol 34: Gwneud sgyrsiau MS Teams yn haws i’w darllen gyda phwyntiau bwled 💬 

Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod MS Teams lle mae angen i chi anfon rhestr gyflym sy’n hawdd i eraill ei darllen? Mae dwy ffordd gyflym o greu pwyntiau bwled neu restrau wedi’u rhifo mewn unrhyw sgwrs MS Teams.

Opsiwn 1

Gallwch naill ai glicio ar yr eicon fformat yn y sgwrs, a gallwch greu pwyntiau bwled neu restr wedi’i rhifo’n hawdd oddi yma.

Opsiwn 2

Neu os ydych chi mewn sgwrs Teams: 

  • Pwyswch ac yna’r bar gofod i ddechrau eich pwyntiau bwled 
  • Pwyswch 1. ac yna’r bar gofod i ddechrau eich rhestr wedi’i rhifo 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!