Y Rhestr Daro: 5 prif TipDigidol o 2023/24 ⏫🎉

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Ym mis Medi 2023, dechreuodd y Tîm Sgiliau Digidol TipDigidol – blogbost wythnosol i dynnu sylw at awgrymiadau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i wneud eich bywyd digidol dyddiol yn haws. Isod ceir y 5 prif TipDigidol o 2023/24. 

  1. TipDigidol 5: Holltwch eich sgrin a chwblhau sawl tasg ar yr un pryd! ↔💻

Ydych chi’n gweithio ar un sgrin ac yn ei chael hi’n anodd? Ydych chi wedi blino ar newid rhwng dwy ffenestr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hollti’ch sgrin i weld dau beth ar unwaith sy’n ei gwneud hi’n llawer haws edrych ar ddwy ffenestr ar yr un pryd? Mae hyn yn golygu y gallwch weithio ar ddogfennau, tabiau a llawer mwy ochr yn ochr.  

  1. TipDigidol 18: Mynegwch eich hun gydag Emojis gyda’r llwybr byr cudd ar y bysellfwrdd. 🥳🤩💖

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol 📱, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron 💻. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd! 

  1. TipDigidol 8: Cyfyngu ar eich amser sgrolio ar Instagram📴

Ydych chi’n cael trafferth canolbwyntio ar eich gwaith? Ydych chi’n oedi a gohirio ar gyfryngau cymdeithasol? Ydych chi angen cyfyngu eich amser sgrolio? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi nawr gyfyngu ar eich amser sgrolio Instagram trwy’r gosodiadau ar Instagram?  

  1. TipDigidol 21: Copïo a gludo cynnwys yn Word heb wneud llanast o’ch fformatio. 📃

Ydych chi erioed wedi copïo a gludo cynnwys o dudalen we neu ddogfen arall i ddogfen Word newydd a chanfod ei fod yn gwneud llanast llwyr o’ch fformatio? Yn ffodus, mae opsiynau ychwanegol y tu allan i’r opsiwn gludo sylfaenol (ctrl + v) a all helpu i ddatrys hyn! 

  1. TipDigidol 6: Gosodwch eich statws am amser penodol yn MS Teams i ddangos eich bod yn brysur. 🔕

Weithiau, efallai y bydd angen i chi neilltuo peth amser i ganolbwyntio ar ddarn penodol o waith, ond sut allwch chi ddangos i bobl eraill sydd ar-lein hefyd eich bod chi’n brysur? Mae Microsoft Teams yn caniatáu ichi osod eich statws i Do not disturb, sy’n golygu na fydd hysbysiadau neu alwadau Teams yn tarfu arnoch (oni bai eich bod yn dewis derbyn y rhain gan bobl benodol), ond gall fod yn hawdd anghofio diffodd y statws hwn ar ôl i chi orffen. 

Ymunwch â ni ym mis Hydref 2024 am fwy o’r TipDigidol, i ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos gan ddechrau o fis Hydref! 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*