Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gyda’r dyddiau’n ymestyn a’r tymheredd yn codi, mae llawer yn dyheu am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.

AllTrails

Mae AllTrails yn ganllaw poced i lwybrau cerdded, llwybrau beicio a mannau natur sy’n addas ar gyfer gwahanol lefelau a galluoedd. Mae’r ap yn caniatáu i chi gynllunio eich antur nesaf, boed yn fach neu’n fawr ac yn eich helpu i ddarganfod lleoedd newydd neu ddychwelyd i’ch hoff fannau!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch chwilio am lwybrau yn ôl lleoliad a hidlo yn ôl y math o weithgaredd, anhawster, hygyrchedd a hyd.
  • Gallwch gael mynediad at wybodaeth fanwl am y llwybrau, gan gynnwys disgrifiadau trylwyr o’r llwybrau, tywydd presennol ac amodau’r ddaear, a’r cyfleusterau sydd ar gael.
  • Gallwch wirio’r adolygiadau a’r lluniau i’ch helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr cywir i chi.
  • Cadwch eich hoff lwybrau a’u rhannu ag eraill yn yr ap.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

Seek gan iNaturalist

Ydych chi erioed wedi gweld planhigyn tra’ch bod allan yn cerdded ac wedi meddwl tybed beth ydoedd? Mae Seek yn eich galluogi i adnabod rhywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau yn ddiymdrech wrth fynd. Nid oes angen cofrestru’r ap; lawrlwythwch yr ap a’i bwyntio at bethau byw o’ch cwmpas!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch bwyntio’r camera o fewn yr ap at yr hyn yr hoffech ei adnabod neu dynnu llun a’i uwchlwytho i’r ap yn nes ymlaen.
  • Gallwch ddysgu mwy am dacsonomeg, natur dymhorol a tharddiad daearyddol y rhywogaeth.
  • Gallwch ymgysylltu â chymuned a rhannu’r rhywogaethau rydych chi wedi’u canfod gyda’r ap. Mae PlantNet yn ap arall sy’n ddefnyddiol os ydych chi am fod yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion ar fioamrywiaeth planhigion.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

SkyView Lite

Yr ap olaf yr hoffwn ei rannu gyda chi yw SkyView Lite. Mae’r ap hwn yn cynnwys map awyr rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr adnabod sêr, planedau a gwrthrychau wybrennol eraill. Mae’r ap yn reddfol, yn gywir ac yn hawdd ei bersonoli. Yng Nghymru, mae’r tywydd yn aml yn gallu bod yn anrhagweladwy, ac mae awyr glir yn aml yn dod fel syndod. Gyda SkyView wrth law, gallwch fanteisio i’r eithaf ar syllu digymell ar y sêr!

Fy hoff bethau am yr ap yw:

  • Nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd na GPS ar yr ap, felly gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd anghysbell.
  • Tapiwch ar unrhyw wrthrych wybrennol i gael disgrifiad manwl. Tapiwch eto am fwy o wybodaeth a ffeithiau addysgol.
  • Mae’r ap yn gweithio o dan do hefyd, felly gallwch ddysgu unrhyw bryd, waeth beth fo’r tywydd.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*