Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Wrth i wyliau’r haf agosáu, oeddech chi’n gwybod os ydych chi’n staff neu’n fyfyriwr PA cyfredol, y gallwch barhau i ddysgu a datblygu sgiliau newydd gyda LinkedIn Learning? Efallai fod yna sgiliau penodol yr hoffech eu datblygu, neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn chwilio am sgiliau penodol a fydd arnoch eu hangen o bosibl ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. A nawr, gyda’r ap LinkedIn Learning, gallwch ddysgu wrth fynd, lle bynnag yr ydych. Mae’r ap yn cynnwys y gallu i lawrlwytho cyrsiau i barhau i ddysgu all-lein neu i ymgysylltu â chyrsiau fel sain yn unig. Am fwy o wybodaeth am y nodweddion newydd a sut i ddysgu wrth fynd, darllenwch ein blogbost blaenorol: O le i le gydag Ap LinkedIn Learning! 📲 | (aber.ac.uk)
Nodyn ar gyfer myfyrwyr sy’n graddio: bydd gennych fynediad i’ch cyfrif LinkedIn Learning tra byddwch yn dal i fod yn fyfyriwr, ond byddwch yn colli mynediad ar ôl i chi raddio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho’ch tystysgrifau tra gallwch. Dysgwch sut i wneud hyn trwy ddarllen ein blogbost blaenorol am ychwanegu tystysgrifau i’ch cyfrif LinkedIn personol.
Gallwch ddysgu mwy am y nodweddion ar LinkedIn Learning gan gynnwys ychwanegu tystysgrifau at eich proffil LinkedIn a mwy drwy sesiwn yr Ŵyl Sgiliau Digidol: Cychwyn arni gyda LinkedIn Learning – Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (6 – 10 Tachwedd) (aber.ac.uk)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio LinkedIn Learning cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) neu edrychwch ar y Cwestiwn Cyffredin LinkedIn Learning: Sut mae defnyddio LinkedIn Learning? (aber.ac.uk).