TipDigidol 32: Peidiwch â tharfu ar eich cwsg 💤

Yn aml gall hysbysiadau a negeseuon gan ffrindiau a theulu dynnu eich sylw a’ch cadw’n effro. Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi osod amserlen “Peidiwch â Tharfu” fel nad ydych bellach yn cael eich rhybuddio am hysbysiadau neu alwadau sy’n dod i mewn er eu bod yn dal i gael eu derbyn?  

Gallwch wneud hyn trwy fynd i: 

  • Settings 
  • Focus 
  • Do Not Disturb 
  • Set a Schedule 

Gallwch hefyd bersonoli’r ‘Focus’ i ganiatáu rhai galwadau neu hysbysiadau gan gysylltiadau allweddol.  

Mae yna hefyd fathau eraill o ffocws megis gyrru.  

Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i osod yr amserlen.  

Noder, mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer ffonau iPhone. Ar gyfer ffonau Androids, edrychwch ar y cyfarwyddiadau canlynol: Cyfyngu ar ymyriadau gyda Peidiwch â Tharfu ar Android – Android Help (google.com) 

Bob wythnos byddwn yn postio TipDigidol defnyddiol i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*