A ydych chi eisiau dysgu sut i wella eich sgiliau cyfathrebu digidol, ac yn enwedig sut i ddefnyddio Instagram i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Instagram for your Business/Social Enterprise – with Kacie Morgan, ar Ddydd Mercher 24 Ebrill (14:10-15:00). Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar-lein dros MS Teams a gallwch ymuno yma.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.