Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut i godio? Wel nawr gallwch chi wneud hynny, am ddim, trwy fanteisio ar ein partneriaeth gyda Code First Girls! Rydym wedi rhestru 5 rheswm isod pam dylech wneud y mwyaf o’r cyfle gwych hwn.
Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.
Cwestiynau❓
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyrsiau Code First Girls, gofynwn yn garredig i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol.
Fersiwn testun:
5 rheswm pam dylech gofrestru gyda Code First Girls. Manteisiwch ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls a dechreuwch eich taith codio heddiw!
- Cyfle anhygoel i fenywod ac unigolion anneuaidd ddysgu sut i godio
- Mae’n rhad ac am ddim!
- Bydd yn rhoi hyder i chi, p’un a ydych chi’n newydd i godio neu’n arbenigwr
- Cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth o’r radd flaenaf gyda brandiau byd-eang megis NatWest, Nike a BT
- Ymestyn eich rhwydwaith a chwrdd â ffrindiau newydd o’r un anian!