Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Mae LinkedIn Learning yn cynnig llyfrgell helaeth o gyrsiau a fideos ar-lein, ac maent ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol (dysgwch sut i gychwyn arni). Ond, oeddech chi’n gwybod bod modd gwylio cyrsiau LinkedIn Learning mewn amrywiaeth o ieithoedd – nid dim ond yn Saesneg?
Yn anffodus, nid yw Cymraeg ar rhestr eto (rydyn ni’n croesi’n bysedd! 🤞), ond mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau ar gael yn yr 13 iaith isod, a allai hwyluso pethau i’r rhai nad Saesneg yw eu mamiaith.
- Saesneg
- Tsieinëeg wedi’i symleiddio
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Siapaneg
- Portiwgaleg
- Sbaeneg
- Iseldireg
- Eidaleg
- Tyrceg
- Pwyleg
- Corëeg
- Bahasa Indonesia
Sut ydw i’n chwilio am gynnwys yn fy newis iaith?
Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y camau syml hyn i ddysgu sut i chwilio am gynnwys LinkedIn Learning yn eich dewis iaith:
- Dechreuwch drwy chwilio am gwrs – gallwch naill ai bori trwy’r gwahanol gategorïau neu deipio yn y bar chwilio
- Dewiswch eich iaith o’r hidlydd iaith
- Os nad yw’r hidlydd iaith yn ymddangos, dewiswch Pob Hidlydd/All Filters
Rhagor o gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu mae croeso i chi ddod i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol yn yr Hwb Sgiliau, Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.