Ydych chi’n aml yn teimlo’n rhwystredig wrth orfod sgrolio’n ôl trwy hanes eich porwr i ddod o hyd i’ch hoff dab? Neu hyd yn oed yn cau’r tab yn ddamweiniol a methu cofio’r wefan?
Gyda TipDigidol 22, gallwch nawr binio eich hoff dabiau ar y rhyngrwyd a’i gael yn barod i chi pan fyddwch chi’n agor eich porwr nesaf.
Ar gyfer porwyr rhyngrwyd megis Chrome a Firefox, gallwch ddilyn y camau hyn:
- Agorwch eich porwr rhyngrwyd a theipio eich URL dewisol
- Cliciwch fotwm de’r llygoden ar eich tab URL a dewiswch yr opsiwn “Pin“
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!