Ydych chi’n gynllunydd ond yn ei chael hi’n anodd bod yn gynhyrchiol? Ydych chi’n gweithio’n well gyda rhestr o bethau i’w gwneud, ond yr hoffech chi gael popeth yn yr un lle? Dyma gyflwyno Task by planner Microsoft Teams!
Gallwch greu eich rhestrau eich hun o bethau i’w gwneud, torri’r rhain i lawr i restrau dyddiol o bethau i’w gwneud a hyd yn oed gweld tasgau sydd wedi’u clustnodi i chi yn sianeli Microsoft Teams.
I greu eich Rhestr o bethau i’w gwneud:
- Ewch i’r eicon Apps ar ochr chwith MS Teams
- Chwiliwch a gosodwch yr ap Tasks by Planner and To Do
- Ar waelod y cynllunydd, dewiswch ‘+ New list or plan’
- Nodwch unrhyw dasg, dewiswch y flaenoriaeth a’r dyddiad cyflwyno
- Ar ôl gorffen dewiswch y cylch a bydd y dasg yn cwblhau ei hun
I dorri eich rhestr o bethau i’w gwneud i lawr i amcanion mwy cyraeddadwy, gallwch ychwanegu tasgau o’ch rhestr o bethau i’w gwneud i “my day” a fydd yn adnewyddu bob dydd.
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad o sut i ddefnyddio Tasks by planner Microsoft Teams.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!