Bydd aelod o’r tîm ar gael bob wythnos i gefnogi myfyrwyr a staff yn ein sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol.
Gallwn eich helpu gyda:
- Dod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol
- Darparu cefnogaeth sylfaenol ar gyfer defnyddio meddalwedd Microsoft (e.e. PowerPoint, Excel, Word, Teams ac Outlook)
- Rhoi cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu eich sgiliau digidol
- Trafod eich adroddiad Offeryn Darganfod Digidol
📍 Byddwn yn yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren ar y ddelwedd isod) yn Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen ar y dyddiau Mawrth a Mercher canlynol o 11:00-12:00 drwy gydol Semester 2. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk.
Dydd Mawrth ⏰ 11:00-12:00 | Dydd Mercher ⏰ 11:00-12:00 |
---|---|
16 Ionawr ’24 | 24 Ionawr ’24 |
30 Ionawr ’24 | 7 Chwefror ’24 |
13 Chwefror ’24 | 21 Chwefror ’24 |
27 Chwefror ’24 | 6 Mawrth ’24 |
12 Mawrth ’24 | 20 Mawrth ’24 |
Dim sesiynau dros y Pasg | Dim sesiynau dros y Pasg |
16 Ebrill ’24 | 24 Ebrill ’24 |
30 Ebrill ’24 | 8 Mai ’24 |