Mae Cysill yn rhan o becyn meddalwedd iaith y gallwch ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur o’r enw Cysgliad, a bydd Cysill yn medru adnabod a chywiro gwallau Cymraeg yn eich testun. Gallwch ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o Cysill, ond gallwch wirio’ch testun yn llawer haws drwy lawrlwytho’r ap (sut ydw i’n gwneud hynny?).
Ar ôl i chi lawrlwytho ap Cysill, edrychwch ar y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
- Agorwch ap Cysill a’ch dogfen Word (neu ble bynnag mae eich testun Cymraeg)
- Amlygwch y testun rydych chi am i Cysill ei wirio
- Teipiwch Ctrl + Alt+ W ar eich bysellfwrdd (bydd hyn yn copïo a gludo eich testun yn uniongyrchol i mewn i Cysill)
- Gwiriwch yr holl wallau y mae’r ap yn awgrymu bod angen newid
- Cliciwch Cywiro os ydych chi’n hapus â chywiriad y mae’r ap yn ei awgrymu
- Unwaith y byddwch wedi gweithio trwy’r holl awgrymiadau, bydd yr ap yn copïo a gludo’r testun wedi’i gywiro yn awtomatig yn ôl i’ch dogfen Word
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!