A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich sgiliau digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol?
Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol Semester 1. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.
Sesiynau cyfrwng Cymraeg:
- 12 Medi ’23: Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol (14:00-15:00)
- 18 Medi ’23: Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol (10:00-11:00)
- 19 Medi ’23: Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu (10:00-11:00)
- 27 Tachwedd ’23: Cychwyn arni gyda LinkedIn Learning (11:00-11:45)
- 7 Rhagfyr ’23: Archwilio a Datblygu eich Sgilliau Digidol (11:00-12:00)
Sesiynau cyfrwng Saesneg:
- 12 Medi ’23: Introduction to the Digital Discovery Tool (10:00-11:00)
- 18 Medi ’23: Introduction to the Digital Discovery Tool (15:00-16:00)
- 21 Medi ’23: Using LinkedIn Learning to Support your Teaching (11:00-12:00)
- 27 Tachwedd ’23: Getting started with LinkedIn Learning (15:00-15:45)
- 5 Rhagfyr ’23: Explore and Develop your Digital Skills (10:00-11:00)