
Os oes gennych nodiadau mewn llawysgrifen yr hoffech eu digido, dysgwch ffordd gyflym a hawdd o wneud hyn gyda ThipDigidol 72! Gan ddefnyddio Microsoft Lens, gallwch sganio nodiadau mewn llawysgrifen yn hawdd gan ddefnyddio’ch ffôn a’ch cyfrif Prifysgol Aberystwyth. Gellir uwchlwytho’r nodiadau hyn yn awtomatig fel delweddau i Microsoft OneNote.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!