Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 6 – Gwerthwyr Tai Aled Ellis & Co.

Mae ein chweched Proffil Cyflogwr gyda’r asiantaeth dai Aled Ellis & Co, sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth. Yn y proffil isod, mae Aled Ellis & Co yn datgan pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol a marchnata yn eu busnes yn ogystal â hunaniaeth ddigidol. Edrychwch ar rai adnoddau isod i ddatblygu’r sgiliau hyn.

Fersiwn Testun:

Cwmni: Aled Ellis & Co.

Maint y Cwmni: 4 aelod yn y tîm craidd

Sefydlwyd: 1998

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Wedi’i leoli yn Aberystwyth ond mae’n gwasanaethu Tywyn lawr i Gei Newydd ac ar draws canolbarth Cymru

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

  • Trafodwr gwerthu
  • Cynorthwyydd Gweinyddol

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Hunaniaeth Ddigidol – Mae’n bwysig iawn cyflwyno hunaniaeth groesawgar, gynorthwyol i gleientiaid ac mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae darpar weithwyr yn cyflwyno eu hunain wrth gyfathrebu hefyd
Cyfathrebu Digidol – Cysylltu â fendwyr, prynwyr a gwerthwyr trwy e-bost, WhatsApp a negeseuon llais
Creadigrwydd Digidol – Splice, Canva a meddalwedd golygu fideos eraill.

A wnaeth Covid newid y cwmni a’r ffordd mae’n cael ei redeg?:
“Cyn Covid prin iawn oedd y defnydd o’n grŵp WhatsApp ond nawr rydyn ni’n ei ddefnyddio drwy’r amser ac roedd yn caniatáu i ni weithio o bell sy’n rhywbeth rydyn ni’n dal i’w wneud. Peth arall yw gallu cyfathrebu â gwerthwyr dramor a dim ond gyda galwadau fideo neu negeseuon y mae hynny’n bosibl.”

Beth yw’r prif sgiliau personol i Werthwr Tai?:
“I unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn rôl gwerthu mae gwasanaeth cwsmeriaid mor bwysig. Mae sicrhau bod eich cleient yn gwbl fodlon yn allweddol. Sgiliau cyfathrebu yw’r rhan bwysicaf o’n swyddi. Mae’n well gan rai cleientiaid gyfathrebu trwy lwyfannau penodol, neu yn Gymraeg yn unig, felly mae bod ar draws yr holl lwyfannau cyfathrebu gwahanol ac yna bod yn barod i gyfathrebu â chleientiaid yn eu dewis ddull yn wych.”

A oes gwendidau o ran sgiliau digidol yn eich tîm?:
“Yn bendant yn y cyfryngau cymdeithasol. Nid oedd presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol pan ddechreuodd y busnes am y tro cyntaf ond nawr rydym yn gwneud teithiau rhithwir, yn postio ein holl eiddo ar Facebook ac Instagram ac mae gennym sianel YouTube. Mae mor allweddol i’r diwydiant gwerthu tai ac mae’r genhedlaeth hon o raddedigion yn fwy cyfarwydd â sut i’w ddefnyddio, felly bydd gallu cael y gallu hwnnw i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â sgiliau marchnata hefyd efallai, yn mynd yn bell”.

Ydych chi’n meddwl bod pobl yn anwybyddu sgiliau digidol yn y diwydiannau creadigol?:
“Heb amheuaeth. Yn ogystal â’r cyfryngau cymdeithasol, mae gallu defnyddio cyfrifiaduron mor bwysig. Rydym yn defnyddio system o’r enw Vebra i uwchlwytho ein holl eiddo a chysylltiadau felly mae gallu defnyddio a llywio’r offer digidol hyn yn hanfodol. Bydd gallu defnyddio system newydd yn gyflym yn mynd â chi’n bell yn ein busnes ni!”

Gwefan Aled Ellis

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*