Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Wythnos 5 – Y BBC

Mae ein pumed Proffil Cyflogwr gyda’r BBC. Fel y nodwyd yn y proffil isod, mae’r BBC yn cynnal digwyddiadau hacathon sydd fel rheol yn seiliedig ar godio a hefyd yn credu y dylid rhoi pwysigrwydd ar les digidol. Hefyd, mae’r BBC yn argymell defnyddio LinkedIn Learning i ddatblygu sgiliau digidol yn enwedig ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol. Edrychwch ar rai adnoddau isod i’ch helpu yn y meysydd hyn:

Fersiwn Testun:

Cwmni: Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC)

Maint y Cwmni: 21,000

Sefydlwyd: 1922

Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Ledled y DU

Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:

  • Prentisiaethau
  • Peiriannydd Meddalwedd
  • Dylunio Profiad Defnyddwyr
  • Rolau amrywiol ar draws:
    • Busnes
    • Rheoli Prosiectau
    • Newyddiaduraeth
    • Chynhyrchu

Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Datrys Problemau Digidol a Chydweithio – “Digwyddiadau ar ffurf ‘hacathon’ lle mae pobl yn cael eu rhoi mewn timau ac yn gosod rhyw fath o her, fel arfer yn seiliedig ar godio, a bydd gennych gyfanswm penodol o amser ac yna cyflwyno eich ateb ac fel arfer mae yna dîm buddugol felly mae’n ddigwyddiad cydweithredol iawn”.
Lles Digidol –
“Rydym yn annog pobl i geisio dod i mewn i’r gwaith lle bo hynny’n bosibl ac mae Adnoddau Dynol yn cynnal sesiynau iechyd meddwl a lles ac yn enwedig y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  O fewn y timau digidol maen nhw’n gwneud mwy o bethau o’r enw ‘10% o’r amser’ lle argymhellir i bobl gamu i ffwrdd o’u gwaith bob yn ail ddydd Gwener a threulio diwrnod neu hanner diwrnod yn dysgu sgil newydd a allai fod yn sgil ddigidol neu’n gwrs neu unrhyw beth arall!”

Pa sgiliau digidol y mae’r BBC yn chwilio amdanynt yn eu gweithwyr a sut gall myfyrwyr ddangos y sgiliau hynny?:
“Mae’n dibynnu ar y rôl mewn gwirionedd, y peth pwysig yw bod yn wybodus am dueddiadau cyfredol, er enghraifft bod yn ymwybodol ac â gwybodaeth am feddalwedd gyfredol ac ieithoedd [codio].  Ein cwestiwn allweddol yw “dywedwch wrthym pam mai chi sydd orau ar gyfer y rôl”, a dyna fyddai’r cyfle gorau i arddangos eich gwybodaeth a’ch sylfaen o sgiliau.  Felly, soniwch am unrhyw brosiectau rydych wedi bod yn rhan ohonynt, yn enwedig prosiectau traethawd hir gan eu bod yn aml ar flaen y gad o ran sgiliau digidol.  Ond er mor bwysig yw sgiliau digidol mae’r rhain yn sgiliau gallwn ddysgu pan fo rhywun yn y rôl felly mae sgiliau ac ymddygiadau personol eraill fel cydweithio yn bwysig iawn”.

Pa awgrymiadau fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr ddatblygu neu wella’r sgiliau hynny?:
“Darllenwch y disgrifiad swydd ac os oes rhywbeth nad ydych wedi’i brofi o’r blaen defnyddiwch rywbeth fel LinkedIn Learning, Pluralsight neu YouTube hyd yn oed a cheisiwch wedyn weithio ar y sgiliau hynny eich hun er mwyn cyd-fynd â’r profiad y maen nhw’n chwilio amdano.  Nid yw’n beth drwg cydnabod nad oes gennych brofiad o rywbeth cyn belled ag y gallwch ddweud rydw i’n barod i’w ddysgu”.

Beth nad ydych chi’n gweld digon ohono o ran y sgiliau digidol hyn?:
“Yr hyn dw i’n sylwi’n bersonol yw ansawdd gwirioneddol y cais yn hytrach na’r sgiliau penodol sydd ar goll.  Mae’n teimlo bod gennym ni bobl sy’n gadael y brifysgol wedi gwneud nifer o bethau anhygoel, ond does ganddyn nhw ddim profiad o ysgrifennu cais a heb gael unrhyw help.”

Gwefan Gyrfaoedd y BBC

Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*