Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae Linkedin Learning yn llwyfan dysgu ar-lein rhad ac am ddim gyda thros 16,000 o gyrsiau ar bopeth o ddatblygiad personol, dylunio, gweithgareddau creadigol, sgiliau astudio, cymorth technegol a llawer mwy! Edrychwch ar y cynnwys hwn o’n cyfrif Instagram @ISAberUni Gwasanaethau Gwybodaeth i gael rhai awgrymiadau a thriciau i’ch rhoi ar ben ffordd.
Cofrestrwch eich cyfrif erbyn 6 Ionawr 2023 er mwyn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o dair taleb gwerth £20!
Cliciwch Darllen Mwy isod ar gyfer fersiwn testun o’r delweddau hyn.
Sut i’w ddefnyddio a pham: LinkedIn Learning
Awgrymiadau cyflym i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich llwyfan dysgu ar-lein rhad am ddim.
Crynodeb:
Cynnwys personol:
- Dewiswch pa bynciau, sgiliau a meysydd sydd o ddiddordeb i chi er mwyn gweld argymhellion personol.
- Cysylltwch eich cyfrif Linkedin os oes gennych un i gael gweld cynnwys sy’n gysylltiedig â’ch proffil.
Mae’n ffitio o amgylch eich amserlen:
- Gyda mynediad 24/7 gallwch ddysgu unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos!
- Gellir cael mynediad at Linkedin Learning o gyfrifiadur, gliniadur neu ddyfais symudol sy’n golygu y gallwch ddysgu gartref, yn y brifysgol ac wrth fynd.
Cynnwys wedi’i greu gan arbenigwyr yn eu maes:
- Gwyliwch fideos a chynnwys gan grewyr o fewn diwydiannau sy’n eich galluogi i gael mynediad at wybodaeth a chyngor arbenigol go iawn.
- Dysgwch gan bobl sy’n angerddol am y pynciau a’r sgiliau y maent yn eu dysgu.
Dod o hyd i gynnwys:
Mae Linkedin Learning yn cynnig sawl ffordd o ddod o hyd i gynnwys…
Argymhellion– Trwy ddewis sgiliau a phynciau sydd o ddiddordeb i chi bydd eich hafan Linkedin Learning yn cael ei boblogi gyda chynnwys awgrymedig yn seiliedig ar eich diddordebau a’ch data o’ch cyfrif Linkedin os oes gennych un.
Pori– Mae’r tab pori yn eich galluogi i weld yr holl gynnwys ar y safle wedi’i drefnu yn ôl categorïau busnes, creadigol a thechnoleg. Mae tab casgliadau Prifysgol Aberystwyth i’w weld hefyd o dan yr adnodd pori.
Chwilio– Defnyddiwch y bar chwilio i ddod o hyd i’r sgiliau a’r pynciau penodol yr hoffech eu gweld. Gallwch weld eich chwiliadau diweddar a hefyd hidlo eich chwiliad yn ôl y math o gynnwys.
Gair i gall: Mae 25 i 30 o gyrsiau newydd yn cael eu rhyddhau bob wythnos ar Linkedin Learning, i ddod o hyd iddynt hidlwch yn ôl ‘mwyaf newydd’ pan fyddwch chi’n chwilio am gynnwys.
Mathau o gynnwys:
Cyrsiau– Mae cyrsiau yn gasgliadau o lawer o fideos byr ar bwnc, ac maen nhw’n amrywio o ran hyd o 30 munud i nifer o oriau. Yn aml caiff cyrsiau eu rhannu’n fodiwlau gwahanol ac mae ganddynt gwisiau rhyngweithiol drwyddynt.
Llwybrau dysgu– Mae llwybrau dysgu yn gasgliadau o gyrsiau lluosog sy’n ymwneud â phwnc penodol. Mae’r rhain yn dueddol o fod yn llawer hirach ond fel gyda’r cyrsiau, gallwch bwyso ‘saib’ a dod yn ôl atynt unrhyw bryd.
Fideos byr- Mae fideos byr ar y llwyfan yn dueddol o bara ychydig funudau ac yn aml maent yn rhoi cyflwyniad i bwnc, yn dangos awgrymiadau a chyngor cyflym neu’n rhoi trosolwg o bwnc.
Sain– Mae clipiau sain yn aml yn fyr, gan bara ychydig funudau o hyd yn unig, sy’n eich galluogi i ddysgu ar ffurf podlediad, sy’n wych os ydych chi eisiau dysgu wrth fynd neu os ydych chi’n ddysgwr mwy clywedol.
Gwylio cynnwys:
I’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar wylio cynnwys…
- Defnyddiwch y botymau ar draws o deitl y cwrs i gadw, rhannu neu ychwanegu at eich cynnwys eich hun.
- Darllenwch drosolwg a thrawsgrifiad o’r cwrs o dan y fideo.
- Addaswch ansawdd y fideo, y cyflymder chwarae ac ychwanegwch is-deitlau.
- Gwnewch a lawrlwythwch nodiadau wrth fynd.
- Cwblhewch gwisiau ac ymarferion eraill.
- Ar eich dyfais symudol lawrlwythwch gynnwys trwy glicio ar y tri dot i wylio cynnwys heb gysylltiad rhwydwaith.
Crëwyd gan hyrwyddwyr digidol y myfyrwyr.
yn llwyfan dysgu ar-lein rhad ac am ddim gyda thros 16,000 o gyrsiau ar bopeth o ddatblygiad personol, dylunio, gweithgareddau creadigol, sgiliau astudio, cymorth technegol a llawer mwy! Edrychwch ar y cynnwys hwn o’n cyfrif Instagram Gwasanaethau Gwybodaeth i gael rhai awgrymiadau a thriciau i’ch rhoi ar ben ffordd.