Ymddengys mai cynhyrchiant yw trefn y dydd, a chyrsiau LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â Microsoft 365 yw’r rhai yr edrychwyd arnynt fwyaf gan staff a myfyrwyr yn ddiweddar. Rydym i gyd yn gyfarwydd â Microsoft 365 ond faint ohonom sy’n manteisio’n llawn ar yr offer a’r nodweddion y mae’n eu cynnig?
Enillodd MS Teams y parch sy’n ddyledus iddo yn ystod y pandemig ar draws sectorau addysg a’r byd gwaith gyda 91% o gwmnïau Fortune 100 yn ei ddefnyddio yn 2019. Y tu hwnt i gyfarfod rhithiol, mae MS Teams yn cynorthwyo cydweithredu drwy sgyrsiau, rhannu ffeiliau, rheoli tasgau, cynllunio prosiectau, llunio rhestrau a mwy. Yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod MS Teams a oedd yn gwneud defnydd rhagorol o fyrddau gwyn rhithiol, nodwedd nad oeddwn yn ymwybodol ohoni tan hynny. Gall penderfynu pa nodwedd i’w defnyddio a phryd fod yn anodd felly bydd dysgu mwy am bob un yn eich helpu i wneud y penderfyniad hwnnw.
Os hoffech chi ddysgu mwy am offer Microsoft 365 dyma’r pum prif gwrs LinkedIn Learning yr edrychwyd arnynt yn Aberystwyth yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. I actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning, sy’n rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr PA, edrychwch ar ein tudalennau ‘cychwyn arni gyda LinkedIn Learning’.
- Microsoft Teams Essential Training (2h 21m)
- Learning Office 365 (57m)
- Microsoft Planner Essential Training (1h 27m)
- Outlook Essential Training (2h 13m)
- Modern Project Management in Microsoft 365 (1h 39m)