TipDigidol 43: Newid eich gwaith gyda Disodli yn Word 🔃

Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi ddisodli gair rydych chi wedi’i ddefnyddio’n gyson drwy gydol eich gwaith – gallai hwn fod yn enw neu’n air a gamsillafwyd. Gall TipDigidol 43 ddangos i chi sut i ddod o hyd i eiriau a’u disodli’n gyflym. Darllenwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam byr neu gwyliwch y fideo i ddysgu sut!  

  • Yn y rhuban uchaf, dewiswch yr opsiwn ‘disodli’. 
  • Rhowch y gair yr hoffech ei ddisodli yn yr adran ‘Canfod beth’. 
  • Rhowch y gair yr hoffech ei ddefnyddio yn ei le yn yr adran ‘Disodli gyda’. 
  • Dewiswch yr opsiwn perthnasol i chi – disodli a dod o hyd nesaf i newid fersiynau unigol neu ddisodli’r cyfan.  

Noder, ni fydd hyn yn gweithio oni bai bod y gair yn ‘canfod beth’ wedi’i sillafu’n gywir.    

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 37: Diwygiwch eich gwaith gyda Chyfystyron yn Word 🔀

Ydych chi erioed wedi ceisio meddwl am air gwahanol i ddiwygio eich brawddeg? Nid oes angen pendroni mwyach! Gyda Thipdigidol 37, dysgwch sut i ddefnyddio’r nodwedd cyfystyron yn Word. Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam isod neu gwyliwch y fideo byr i ddysgu mwy! 

Yn syml: 

  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y gair o’ch dewis  
  • Daliwch y llygoden dros ‘cyfystyron’  
  • Dewiswch air newydd! 
  • Dal ddim yn gweld gair priodol? Dewiswch thesawrws i weld mwy! 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 21: Copïo a gludo cynnwys yn Word heb wneud smonach o’ch fformatio 📃

Ydych chi erioed wedi copïo a gludo cynnwys o weddalen neu ddogfen arall i ddogfen Word newydd a chanfod bod hyn yn gwneud smonach o’ch fformatio? Yn ffodus, mae dewisiadau ychwanegol ar wahân i’r opsiwn gludo sylfaenol (ctrl+v) a all helpu i ddatrys hyn!

Dechreuwch drwy ddewis lle’r hoffech ludo eich cynnwys a chliciwch fotwm de’r llygoden. Yna fe gewch nifer o opsiynau gludo gwahanol (bydd yr opsiynau sydd ar gael yn seiliedig ar y math o gynnwys yr ydych wedi’i gopïo).

Dyma grynodeb o’r 4 dewis gludo mwyaf cyffredin:

Cadw’r Fformatio

Bydd hyn yn cadw fformatio’r testun yr ydych wedi’i gopïo (boed hynny o weddalen, dogfen arall, neu ffynhonnell arall).

Cyfuno Fformatio

Bydd yr opsiwn hwn yn newid fformatio’r testun fel ei fod yn cyd-fynd â fformatio’r testun o’i amgylch.

Defnyddio Arddull y Gyrchfan

Mae’r opsiwn hwn yn fformatio’r testun a gopïwyd fel ei fod yn cyd-fynd â fformat y testun lle’r ydych chi’n gludo eich testun.

Cadw’r Testun yn Unig

Mae’r opsiwn hwn yn hepgor unrhyw fformatio presennol AC unrhyw elfennau nad ydynt yn destun yr ydych wedi’u copïo (e.e. delweddau neu dablau).

 I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 12 – Cael Microsoft Word i Ddarllen yn Uchel i chi 🔊

A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel (Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft 365, gan gynnwys Word ac Outlook. Gall ddarllen testun Cymraeg a Saesneg yn ogystal â sawl iaith arall. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich testun yn yr iaith gywir ar gyfer prawfddarllen. Amlygwch y testun a dewiswch Adolygu (Review)
  • Dewiswch Iaith (Language), ac yna Gosod Iaith Prawfddarllen (Set Proofing Language)  
  • Dewiswch eich dewis iaith ac yna cliciwch Iawn (OK)
  • Symudwch eich cyrchwr i ddechrau’r darn o destun yr ydych am iddo gael ei ddarllen yn uchel  
  • Dewiswch Adolygu (Review) ac yna Darllen yn Uchel (Read Aloud) 
  • Gallwch newid yr iaith a’r llais darllen 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Word 💡

Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Gwneud pethau’n haws

Mae’n bosib mai Microsoft Word yw’r rhaglen gyfrifiaduron fwyaf adnabyddus ym maes academia. Mae bron bob cwrs y gallwch ei ddilyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn defnyddio Microsoft Word i ryw raddau, gyda rhai cyrsiau yn gofyn i chi wneud mwy na dim ond teipio traethawd. Yn y blog-bost hwn, byddaf yn rhannu ambell dric defnyddiol yn Microsoft Word sydd wedi fy helpu yn ystod fy astudiaethau.

Awgrym 1: Bysellau hwylus

Mae bysellau hwylus yn gyfuniad o fysellau rydych chi’n eu pwyso er mwyn cyflawni swyddogaeth. Er enghraifft, mae pwyso control (ctrl) a C ar yr un pryd ar ôl amlygu testun yn copïo’r testun hwnnw i’ch clipfwrdd. Yn lle clicio’r botwm dde a sgrolio i lawr y gwymplen i Gludo, gallwch bwyso ctrl + V i ludo’r testun.

Gellir defnyddio’r allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus hefyd. Yn benodol, defnyddir yr allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus sy’n berthnasol i’r bar tasgau uchaf. Trwy ddal ALT i lawr am ychydig eiliadau, bydd yr allweddi ar gyfer pob bysell hwylus yn ymddangos. Er enghraifft, ar fy mysellfwrdd i, bydd pwyso ALT + 2 yn cadw fy nogfen.

Yn y llun isod mae tab Cartref (Home) ein bar tasgau ar agor.

Ond os pwyswn ni ALT+S i fynd i’r tab Cyfeiriadau (References)

Cawn gyfres hollol newydd o orchmynion bysellfwrdd ALT i’w defnyddio!

Trwy ddal ALT i lawr gyda thab gwahanol ar agor gallwn weld pa fysellau hwylus sydd ar gael ar gyfer pob tab ar y bar tasgau. Os byddwch yn anghofio beth mae bysellau hwylus ALT yn ei wneud, daliwch ALT i lawr er mwyn eich atgoffa.

Read More