Dychmygwch am eiliad y senario dirdynnol hwn:
Helo, dyma'r cod pwysig y gwnaethoch gais amdano:Az3971InwlI1mkEnDIWnl11Il
Bydd yn rhaid i chi fewnbynnu’r cod â llaw, gan ddefnyddio teclyn rheoli o bell, un nod ar y tro.
Bydd y maes mewnbynnu yn ailosod ar ôl 60 eiliad, felly rhaid symud yn gyflym.
O, ac un peth arall...
Mae rhai o'r nodau’n llythrennau ‘L’ fach a rhai yn briflythrennau ‘i’.
Pob lwc!
- Serious Business Co.Mae’n amhosibl. Mae’n anorchfygol. Does dim gobaith.
Oni bai…
Gwiriwr I neu L
Gan ddefnyddio’r safle hwn, gallwch weld pa nodau mewn darn o destun sy’n I, L, neu 1.

(Ar y cyfan, mae hwn yn un eithaf gwirion. Serch hynny, mae wedi fy helpu o leiaf ddwywaith yn fy mywyd! Efallai y bydd yn eich helpu chi ryw ddydd?)
I ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos!
