TipDigidol 83 – Gwirio unrhyw beth gyda Golygydd Word ๐Ÿ“

Mae’n debyg eich bod wedi bod yn teipio ar eich cyfrifiadur – boed hynny gyda Microsoft Word neu unrhyw brosesydd geiriau arall – a gweld y llinell goch o dan y geiriau yn dangos eich bod wedi camsillafu rhywbeth. Mae’n eithaf defnyddiol, ac yn ei gwneud hi’n ddiymdrech i fynd yn รดl a chywiro eich hun wrth i chi ysgrifennu.

Fodd bynnag, yn y blog hwn fe welwch sut i fynd ag ef gam ymhellach. Wrth wirio eich sillafu eto, gallwch hefyd gael trosolwg o’ch gramadeg, naws, atalnodi a gwallau teipograffig eraill. Un botwm bach syโ€™n gwneud y cyfan o dab Hafan Microsoft Word:

Mae clicio ar hwn yn dod รข ffenestr ochr i fynd trwy bopeth y gallech chi ei newid gyda’ch dogfen, ac yn gadael i chi weithio trwyddynt fesul un. Gadewch i ni weld beth mae’n ei wneud gyda’r ddogfen hon:

Yn gyntaf, mae’r Golygydd yn fy rhybuddio am fy nghamgymeriad sillafu cywilyddus:

The error "jumpud" is highlighted, and "jumps" or "Jumped" are suggested instead.

Nesaf, mae’r Golygydd wedi nodi fy nheipio lletchwith:

the extra space between quartz and judge has been highlighted and it suggests I remove it

Mae’r un nesaf hwn yn ddiddorol, oherwydd mae’n dangos beth na all yr adnodd hwn ei wneud.
Nid yw adnodd fel hwn yn ymwybodol o gyd-destun brawddegau, a chyn belled รข bod geiriau yn cael eu rhoi at ei gilydd yn synhwyrol a’u sillafu’n iawn, bydd yn aml yn colli gwallau gramadegol neu resymegol y gall bodau dynol eu gweld yn llawer haws.

Yma, mae’r Golygydd yn awgrymu dileu cyfangiad i wella’r naws, tra’n colli amserau cymysg y frawddeg:

"Today I'll fed the cat" is suggested to become "Today I will fed the cat."

Gobeithio y bydd yr enghreifftiau hyn gyda’i gilydd yn dangos yn union beth y gall adnodd gwirio sillafu fel Golygydd Word ei wneud ac beth na all ei wneud.
Mae bob amser yn syniad da rhoi eich dogfen trwy un o’r rhain i wirio am fรขn wallau a theipio neu dรดn lletchwith, fodd bynnag, nid ydynt yn disodli prawf-ddarlleniad priodol gyda llygaid dynol.

Trwy wneud defnydd clyfar o’r adnodd hwn, gallwch arbed amser wrth brawfddarllen a gwella eich ysgrifennu ar y cyfan!

I ddilyn ein TipDigidol,ย tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos!ย ย 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*
*