
Dyma raglen ddefnyddiol arall i chi!
Os ydych chi erioed wedi cael trafferth gyda system ffeiliau anniben, gyriant anhrefnus, neu wedi rhedeg allan o ofod storio, efallai y byddwch yn elwa o TreeSize gan JamSoftware.
Mae TreeSize yn “offer delweddu sythweledol” sy’n eich galluogi i weld strwythur a chynnwys eich systemau ffeiliau mewn gwahanol fformatau defnyddiol. Er enghraifft, gallwch weld eich ffeiliau mewn siart ‘Map Coed’ ddisgynnol i arddangos strwythurau eich ffolder yn sythweledol iawn a dod o hyd i leoliadau storio cudd. Yn yr un modd, gallwch edrych ar eich ffeiliau ar ffurf siart cylch i weld beth sy’n cymryd llawer o le storio ar eich dyfais.

Yn bersonol, mae TreeSize wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer rhyddhau storfa ar fy nyfais, ond efallai yr hoffech hefyd ei ddefnyddio i aildrefnu eich ffeiliau, symud ffeiliau mewn swmp (i yriant allanol ar gyfer archifo, er enghraifft), neu ddod o hyd i ffeiliau dyblyg.
I ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos!
