Os ydych chi fel fi, mae cael blwch derbyn e-bost gwag yn llawenydd anhygoel ac yn nod anorchfygol.
Heddiw byddaf yn rhannu rhywbeth sy’n fy helpu i deimlo bod gennyf fwy o reolaeth dros fy mewnflwch trwy gadw golwg ar beth yw beth – beth allwch chi ei ddileu, ei gadw, ymateb iddo, neu beth bynnag arall sydd ei angen arnoch.
Dyma gyflwyno: Tagio e-bost!
Mae hon yn nodwedd yn rhaglen Outlook Microsoft, ond mae hefyd yn bresennol mewn llawer o ddarllenwyr e-bost eraill mewn gwahanol ffurfiau, felly edrychwch ar y gosodiadau ar gyfer eich un chi i weld a allwch chi wneud iddo weithio i chi.
Yn Outlook, cliciwch ar y sgwariau lliw hyn o dan y bar offer Hafan: ![]()
Yna, cliciwch ar “Pob Categori”: ![]()
Yn y ddewislen gosodiadau hon, gallwch ailenwi ac ail-liwio’r tagiau (neu’r ‘categorïau’) y byddwch chi’n eu defnyddio i’ch e-byst.

O’r fan honno, gallwch ddewis yr e-bost yr hoffech ei dagio, yna defnyddiwch y gwymplen a geir trwy glicio ar
<- hwn, a thagio’ch negeseuon e-bost fel yr hoffech!
Gallwch hefyd osod llwybrau byr bysellfwrdd arferol i gymhwyso tagiau, a all gyflymu pethau hyd yn oed yn fwy unwaith y byddwch chi’n dod i arfer â’u didoli.
I ddangos pam efallai yr hoffech chi ddechrau tagio eich negeseuon e-bost, dyma enghraifft o flwch derbyn:

Rydw i wedi mynd trwy’r e-byst hyn ac wedi eu tagio yn gyflym o ran sut rwyf eisiau ymdrin â nhw. “Gweithredu (coch)”, “Cadw er gwybodaeth (melyn)”, “Ymateb (glas)” a dim tag.
Yn ddiweddarach, pan fydd gen i amser i ysgrifennu rhai negeseuon e-bost, gallaf edrych yn ôl trwy fy mewnflwch a didoli yn ôl categorïau fel fy mod yn gwybod yn union ble mae pob un i fod. Mae’n gweithredu fel dangosydd gweledol o ba negeseuon e-bost sydd angen gweithredu arnynt, pa rai sydd i fod i aros yn eich mewnflwch neu archif, a pha rai y gellir eu dileu’n ddiogel.
Gan gymhwyso hyn i’r cannoedd o negeseuon e-bost y gallech eu derbyn – rhai’n ddefnyddiol, rhai’n ddibwrpas – ynghyd â’r gallu i ddidoli yn ôl tagiau ac ymdrin â nhw i gyd ar unwaith, efallai y byddwch chi’n gweld sut y gall hyn wneud rheoli mewnflwch prysur yn dasg llawer llai brawychus!
I ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos!
